Bu farw cyn reolwr clwb pêl droed Dinas Caerdydd.
Roedd Eddie May yn 68 oed a bu farw yn ei gwsg.
Roedd yn Reolwr ar yr Adar Gleision am bedair blynedd yn ystod y nawdegau gan ennill pencampwriaeth y Trydydd Cyngrhair a Chwpan Cymru.
Roedd yn hynod boblogaidd gyda chefnogwyr a chlwb Caerdydd a chafodd ei wahodd yn ôl i reoli un tîm mewn gêm arbennig i ddathlu agor stadiwm newydd y clwb.
Yn ei ddydd roedd hefyd yn chwaraewr medrus gan chwarae i dimau Wrecsam ac Abertawe yn ystod y saithdegau.