Gleision 12–33 Gweilch
Roedd y Gweilch yn llawer rhy gryf i’r Gleision yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn wrth iddynt ennill y gêm RaboDirect Pro12 yn gyfforddus. Y Rhanbarth o’r gorllewin oedd y tîm gorau trwy gydol y gêm ond bu rhaid iddynt aros am dri chais yn y chwarter olaf i’w hennill hi yn y diwedd.
Hanner Cyntaf o Gicio
Gêm gicio oedd hi yn yr hanner cyntaf a chafodd Leigh Halfpenny y gorau ar Dan Biggar gan lwyddo gyda phedair allan o bedair.
Llwyddodd cefnwr y Gleision gyda’r gyntaf wedi dim ond dau funud wedi i Richard Hibbard gael ei ddal yn camsefyll.
Cafodd canolwr y Gleision, Gavin Evans, ei anfon i’r gell gosb wedi wyth munud am daro’r bêl ymlaen yn fwriadol ac unionodd Biggar y sgôr gyda’r gic gosb ganlynol.
Y Gweilch oedd yn rheoli’r gêm yn awr ond methodd Biggar gyfle i roi ei dîm ar y blaen yn dilyn trosedd gan Martyn Williams yn ardal y dacl.
Y Gleision yn hytrach a aeth ar y blaen a hynny diolch i ail gic lwyddiannus Halfpenny wedi 24 munud. Ond roedd hi’n gyfartal eto wedi hanner awr, sgrym y Gleision yn gwegian a Biggar yn cicio’r tri phwynt.
Ond y Gleision a Halfpenny a gafodd y gair olaf am yr hanner cyntaf gyda dwy gic gosb, y naill wedi 33 munud a’r llall funud cyn y chwiban hanner.
Gweilch yn Taro’n Ôl
Y Gweilch a oedd yn llwyr reoli ar ddechrau’r ail hanner ac roedd talcen caled yn wynebu’r Gleision wedi i Ceri Sweeny gael ei anfon am ddeg munud yn y gell gosb wedi 53 munud, taro’r bêl ymlaen yn fwriadol y drosedd unwaith eto.
Manteisiodd Biggar gyda’r gic gosb ganlynol cyn ychwanegu un arall bum munud yn ddiweddarach i unioni’r sgôr gyda chwarter y gêm ar ôl.
Ceisiau Hwyr
Er gwaethaf y sgôr, dim ond un tîm oedd ynddi mewn gwirionedd a dim ond mater o amser oedd hi cyn i’r llifddorau agor.
Daeth cais cyntaf y Gweilch i Alun Wyn Jones wedi 61 munud. Pas dda gan yr eilydd fewnwr, Rhys Webb, a’r clo rhyngwladol yn ei derbyn wrth redeg ar ongl dda cyn curo tri thaclwr ac ymestyn at y gwyngalch.
Dilynodd yr ail saith munud yn ddiweddarach ac Adam Jones oedd y sgoriwr y tro hwn. Cododd y prop y bêl wrth fôn y ryc bum medr allan cyn hyrddio dros y llinell.
A daeth y trydydd ddau funud cyn y chwiban olaf i’r eilydd wythwr, Tom Smith. Roedd pac y Gweilch wedi chwalu’r Gleision trwy gydol y gêm a doedd sgrym olaf y noson yn ddim gwahanol wrth iddynt hyrddio drosodd i alluogi Smith i dirio’r trydydd cais.
Trosodd Biggar y tri chais hwyr wrth iddi orffen yn 33-12 o blaid yr ymwelwyr.
Ymateb
Roedd Ryan Jones yn ddyn hapus iawn ar ddiwedd y gêm ac yn barod iawn i ganu clodydd ei dîm:
“Dwi mor falch dros y grŵp yma o fechgyn, rydyn ni wedi bod o dan bwysau ers y flwyddyn newydd, ond rydym wedi gweithio’n galed ac wedi llwyddo i uno. A thrwy weithio’n galed ac aros gyda’n gilydd fel tîm rydym wedi cael canlyniad gwych yma heno.”
Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch yn yr ail safle yn nhabl y Pro12 ac mae’n edrych yn debygol y cânt gêm gynderfynol gartref yn awr. Mae’r Gleision ar y llaw arall yn aros yn seithfed ac mae eu gobeithion hwy o gyrraedd y gemau ail gyfle ar ben.