Caerefrog 1–1 Casnewydd
Mae Casnewydd gam yn nes at aros yn Uwch Gynghrair y Blue Square yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Caerefrog yn Bootham Crescent brynhawn Sadwrn. Mae gobeithion y tîm o Gymru o aros yn y Gyngres yn gryf iawn yn dilyn pwynt da yn erbyn y tîm a oedd yn bedwerydd cyn y gêm.
Cafodd Casnewydd y dechrau perffaith wrth i Nat Jarvis eu rhoi ar y blaen wedi dim ond pedwar munud. Peniodd yr ymosodwr bywiog groesiad Sam Foley heibio i Michael Ingham ac i gefn y rhwyd.
Karl Darlow, rhwng y pyst i Gasnewydd oedd y prysuraf o’r ddau gôl-geidwad wedi hynny ond methodd ymosodwyr Caerefrog, gan gynwys cyn chwaraewr Bangor, Jamie Reed, unioni’r sgôr cyn yr egwyl.
Serch hynny, doedd fawr o syndod gweld y tîm cyfartal yn sgorio toc cyn yr awr wrth i Jason Walker rwydo croesiad Ashley Chambers ond daliodd Casnewydd eu gafael am hanner awr a mwy i gipio pwynt.
Mae Casnewydd yn aros yn y deunawfed safle yn nhabl y Blue Square ond mae pum pwynt bellach yn eu gwahanu hwy a Hayes yn yr unfed safle ar hugain. Byddai pwynt gartref yn erbyn Darlington nos Fawrth yn ddigon felly i sicrhau dyfodol y tîm o Gymru yn y Gyngres.