Rodgers - Diolch i'r cefnogwyr
Abertawe 3–0 Blackburn

Daeth rhediad gwael diweddar Abertawe yn yr Uwch Gynghrair i ben brynhawn Sadwrn gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Blackburn yn Stadiwm Liberty.

Roedd yr Elyrch wedi colli pedair o’r bron cyn y gêm hon ond roedd goliau hanner cyntaf Gylfi Sigurdsson a Nathan Dyer ynghyd â gôl i’w rwyd ei hun gan amddiffynnwr Blackburn, Scott Dann, wedi’r egwyl yn hen ddigon i sicrhau’r tri phwynt i dîm Brendan Rodgers ddydd Sadwrn.

Bu rhaid i gôl-geidwad yr ymwelwyr, Paul Robinson, fod ar flaenau’i draed i arbed ergyd Sigurdsson o bellter wedi 36 munud ond fu dim rhaid i’r gŵr o Wlad yr Iâ aros yn hir i agor y sgorio. Funud yn unig yn ddiweddarach rheolodd y bêl yng nghornel y cwrt cosbi cyn crymanu ergyd gywrain heibio Robinson ac i gefn y rhwyd.

Bu bron i Danny Graham ddyblu mantais yr Elyrch cyn i Dyer wneud hynny ddau funud cyn yr egwyl. Cafwyd cyd chwarae da rhwng Scott Sinclair, Graham, a Dyer cyn i’r asgellwr guro Robinson gydag ergyd braidd yn ffodus.

Gôl i’w rwyd ei hun gan Dann oedd y drydedd wedi 63 munud ond Sinclair oedd yn haeddu’r clod. Curodd yr asgellwr lu o amddiffynnwyr cyn croesi i Sigurdsson yn y canol. Dylai yntau fod wedi sgorio’i ail ond tarodd ei gynnig yn erbyn y postyn cyn gwyro i gefn y rhwyd oddi ar Dann.

Er i David Dunn daro’r postyn gydag ergyd dda o bellter ychydig funudau yn ddiweddarach wnaeth Abertawe ddim edrych mewn perygl mewn gwirionedd.

Yn wir, gallai Leroy Lita fod wedi ychwanegu pedwaredd ddau funud o’r diwedd ond arbedodd Robinson gynnig yr eilydd.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Abertawe dros Stoke a West Brom i’r deuddegfed safle yn yr Uwch Gynghrair.

Diolch i’r cefnogwyr a wnaeth Rodgers wrth siarad â’r BBC wedi’r gêm:

“Mae’r cefnogwyr yma’n chwarae rhan fawr yn y ffordd yr ydym yn chwarae. Maen nhw’n amyneddgar a hyd yn oed pan nad ydym wedi ennill ers pedair gêm roedd rhywun yn teimlo eu bod wedi mwynhau’r perfformiad yna heddiw.”