Wrecsam 2–2 Grimsby
Cafwyd cadarnhad ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn y bydd rhaid i Wrecsam ddibynnu ar y gemau ail gyfle os am ennill dyrchafiad o Uwch Gynghrair Blue Square y tymor hwn. Yn dilyn gêm gyfartal Fleetwood nos Wener roedd gan Wrecsam, yn fathemategol, obaith o ennill y gynghrair o hyd ond mae gêm gyfartal gartref yn erbyn Grimsby yn sicrhau mai yn ail y byddant yn gorffen y tymor.
Wrth reswm, doedd neb yn disgwyl i Fleetwood golli eu dwy gêm olaf ond mae’r gêm gyfartal hon yn ganlyniad braidd yn siomedig i’r Dreigiau serch hynny, yn enwedig gan ystyried iddynt fod ar y blaen ddwywaith.
1-0 i’r tîm cartref oedd hi ar yr egwyl diolch i gôl Jake Speight hanner ffordd trwy’r hanner. Curodd yr ymosodwr James McKeown yn y gôl i Grimsby gyda pheniad o groesiad Glen Little.
Ceisiodd yr ymwelwyr newid pethau ar hanner amser gyda dau eilydd, ac un o’r eilyddion hynny unionodd y sgôr doc wedi’r awr, Anthony Elding yn penio croesiad Frankie Artus i gefn y rhwyd.
Roedd y Dreigiau yn ôl ar y blaen wedi 72 munud diolch i beniad Chris Westwood o groesiad Stephen Wright.
Ond yn ôl y daeth Grimsby unwaith eto a chyfle un o’r eilyddion arall, Andi Thanoj, oedd hi i sgorio wyth munud o’r diwedd. A hon oedd y gôl orau o’r pedair hefyd wrth i’r ymosodwr ifanc guro Joslain Mayebi gydag ergyd isel o du allan i’r cwrt cosbi.
Bu bron i Speight ennill y gêm i Wrecsam wedi hynny ond bu rhaid i’r Dreigiau fodloni ar bwynt yn unig.
Dim dyrchafiad uniongyrchol i’r Dreigiau felly ond all neb ddal Wrecsam yn yr ail safle bellach felly efallai y caiff Andy Morrell gyfle i orffwyso un neu ddau o chwaraewyr dros yr wythnosau nesaf er mwyn paratoi am y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.