Rhys Priestland
Mae’r Scarlets wedi addo y bydd yr arian o bob tocyn tymor sy’n cael ei brynu gan gefnogwyr yn cael ei fuddsoddi yn llwyddiant y sgwad.

Wrth lansio tocynnau tymor 2012/13 dywedodd y Scarlets eu bod nhw’n bwriadu parhau i feithrin a datblygu chwaraewyr ifanc newydd ar gyfer y dyfodol.

Heddiw lansiodd y clwb ymgyrch ‘Buddsoddi mewn Rygbi’ a fydd yn canolbwyntio ar sut y bydd yr arian o docynnau tymor yn cael ei wario ar ddatblygu talentau newydd yn y gymuned.

“Rydyn ni wedi cael cefnogaeth ysbrydoledig y tymor yma o ystyried yr hinsawdd economaidd anodd. Mae 8% yn fwy o bobol wedi dod i Barc y Scarlets o’i gymharu â llynedd,” meddai’r Prif Weithredwr, Mark Davies.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd gwerthiant tocynnau tymor 2012/13 yn adlewyrchu hynny hefyd.

“Rydyn ni eisoes wedi gwerthu un tocyn tymor bob pedwar munud yn ystod y 24 awr gyntaf.

“Mae gennym ni rywbeth ar y cae y mae pobol o bob cwr o’r byd yn gyffrous ynglŷn â’i wylio a bod yn rhan ohono.

“Drwy fuddsoddi yn y clwb mae ein cefnogwyr yn ein helpu ni i hybu talentau newydd o fewn ein rhanbarth.”