Barnsley 0–1 Caerdydd
Cryfhaodd Caerdydd eu gafael ar eu lle yn safleoedd ail gyfle’r Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth yn erbyn Barnsley yn Oakwell brynhawn Sadwrn. Sgoriodd Liam Lawrance unig gôl y gêm hanner ffordd trwy’r ail hanner i gipio’r tri phwynt a chadw’r Adar Gleision yn y chweched safle.
Aron Gunnarsson a Peter Wittingham a ddaeth agosaf i Gaerdydd mewn hanner cyntaf di sgôr. Arbedodd David Button ergyd Gunnarsson wedi 36 munud cyn i Wittingham grymanu cic rydd heibio’r postyn yn eiliadau olaf yr hanner.
Cafodd Don Cowie gyfle da yn syth wedi’r egwyl ond llwyddodd Button i arbed yn gyfforddus.
Daeth y gôl holl bwysig wedi 69 munud ac roedd hi’n gôl ddigon taclus hefyd. Cafwyd gwaith da ar yr asgell gan y cefnwr chwith, Andrew Taylor, cyn i’w groesiad ddod o hyd i Lawrance wrth y postyn pellaf. Peniodd yntau yn ôl ar draws y gôl gan guro Button i roi’r Cymry ar y blaen.
Dylai Ben Turner fod wedi dyblu’r fantais chwarter awr o’r diwedd ond saethodd yr amddiffynnwr canol dros y trawst. Ond roedd un yn ddigon i Gaerdydd wrth i David Marshall gael prynhawn cymharol ddistaw yn y gôl i’r ymwelwyr.
Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Caerdydd yn y chweched safle a dim ond gwahaniaeth goliau sydd yn eu gwahanu hwy a Blackpool yn y pumed safle bellach.
Dim ond tair gêm sydd ar ôl ac mae’r nesaf o’r rheiny yn erbyn Derby nos Fawrth. Byddai buddugoliaeth yn y gêm honno yn rhoi Caerdydd mewn safle addawol iawn i gyrraedd y gemau ail gyfle.