Paul Clement
Alun Rhys Chivers sy’n trafod trip Abertawe i Chelsea yfory…
“Mae e’n chwaraewr canol cae amddiffynnol, yn fy marn i. Mae e’n chwaraewr o safon ac mae e’n gallu rhedeg gyda’r bêl. Mae e’n pasio’n dda. Ond dyw e ddim yn rhywun sy’n adnabyddus am sgorio neu greu goliau. Pan fo’r bêl gyda chi, cadwch e oddi wrtho fe. Mae e mor dda wrth ryng-gipio a thorri ymosodiadau.”
Gallai Paul Clement yn hawdd iawn fod yn siarad am ei is-hyfforddwr Claude Makélélé. Ond na, dyma ddisgrifiad prif hyfforddwr Abertawe o N’Golo Kante, chwaraewr canol cae amddiffynnol Chelsea, sy’n debygol o herio’r Elyrch brynhawn fory. Mae’r gŵr o Ffrainc eisoes wedi dechrau mewn 24 allan o 25 o gêmau i Chelsea y tymor hwn, gan sgorio un gôl – hanner cyfanswm Makélélé mewn pum tymor gyda’r clwb o Lundain.
Mae’r cymariaethau rhwng y ddau chwaraewr yn parhau trwy eu cyswllt â’r Eidalwr Claudio Ranieri. Rhyfedd o fyd, felly, fod yr Eidalwr yntau wedi cael ei ddiswyddo gan Gaerlŷr neithiwr ar drothwy’r gêm fawr rhwng Abertawe a Chelsea. Tra bod Makélélé wedi cael ei ddenu i Chelsea gan Ranieri, gadael Ranieri a Chaerlŷr a wnaeth Kante er mwyn symud i Chelsea. £16 miliwn gostiodd Makélélé yn 2003 pan symudodd e i Stamford Bridge. Talodd Chelsea ddwywaith cymaint am Kanté dair ar ddeg o flynyddoedd yn ddiweddarach.
Er y cymariaethau, “does ond un Makélélé”, yn ôl Paul Clement, sy’n disgwyl i’r gŵr a gafodd ei eni yn y Congo ond a fagwyd yn Ffrainc gael croeso cynnes gan ffyddloniaid Stamford Bridge.
“Mae Kante yn chwaraewr rhyfeddol. Fe wnaeth e mor dda yng Nghaerlŷr. Fe wnaeth Caerlŷr yn dda i recriwtio’r fath chwaraewr. Mae e wedi symud o Gaerlŷr i Chelsea yn ddi-drafferth. Gallwch chi ddeall pam fod y cymariaethau [â Makélélé] yn cael eu gwneud. Ond does ond un Makélélé!”
Pum mlynedd yn Chelsea
Er bod Makélélé yn cyfadde yn ei hunangofiant, Claude Makélélé Tout Simplement fod ganddo fe “atgofion hyfryd” o’i gyfnod yn Chelsea, doedd y pum mlynedd yn sicr ddim yn fêl i gyd.
Fe ymunodd e â’r clwb ar ddechrau ‘prosiect’ Roman Abramovich i weddnewid clwb oedd, ar ei orau, yn deilwng o le yng nghanol tabl yr Uwch Gynghrair. Ac yntau wedi costio £16 miliwn ar y pryd, roedd yn cael ei ystyried yn un o’r hoelion wyth oedd â’r gallu i wireddu breuddwyd a gweledigaeth y perchennog o godi’r tîm i uchelfannau’r Uwch Gynghrair.
Mae dwy gwpan y gynghrair, un gwpan FA a dwy fedal enillydd yr Uwch Gynghrair yn dyst i’r llwyddiant a gafodd yng nghrys glas Chelsea, ynghyd â thri o’i gydwladwyr – Emmanuel Petit, William Gallas a Marcel Desailly – rhwng 2003 a 2008. Ond fe adawodd dan gwmwl. Fe ddaeth ei gyfnod yn Llundain i ben gyda ffrae â phrif weithredwr y clwb ar y pryd, Peter Kenyon.
Dychwelyd i Stamford Bridge
Serch hynny, mae lle arbennig o hyd yng nghalonnau’r cefnogwyr i ‘Kéké’. Ac mae Paul Clement yn disgwyl iddo gael croeso cynnes yn Stamford Bridge.
“Dw i’n credu y bydd Claude yn cael derbyniad gwych. Mae e mor adnabyddus. Roedd e’n arwr yn y clwb. Dw i’n credu ei fod e’n cyffroi wrth feddwl am fynd nôl.”
Pan fydd Makélélé yn cerdded allan i gae Stamford Bridge yn aelod o dîm hyfforddi Paul Clement ac Abertawe, fe fydd e’n gwireddu’r hyn a ddywedodd cyn-reolwr Ffrainc, Raymond Domenech amdano yn rhagair ei hunangofiant yn 2009.
“Mae ei ddyfodol, i fi, ar yr ystlys. Dyw e ddim credu bod ganddo fe’r gallu i fod yn rheolwr. Ond mae ganddo fe’r gallu. Cafodd ei eni i fod yn hyfforddwr. Rhaid i’r byd pêl-droed beidio â cholli Kéké.”
Am y tro, dyw diffyg profiad y Ffrancwr yn poeni dim ar Paul Clement, sy’n awyddus i dynnu sylw at nodweddion Makélélé fel ysbrydolwr ac ysgogwr y gall rhai o chwaraewyr ifainc yr Elyrch ei edmygu.
Claude Makélélé – yr is-hyfforddwr
“Does gyda fe ddim llawer o brofiad o hyfforddi. Ond yr hyn sydd gyda fe yw’r gallu i adnabod chwaraewyr ar lefel un-i-un. Mae ganddo fe wybodaeth wych o’r gêm gan ei fod e wedi chwarae ar lefel mor uchel. Mae e’n cyfathrebu’n dda â’r chwaraewyr mewn grwpiau bach, a rhoi perlau o wybodaeth iddyn nhw am yr hyn ddylen nhw ei wneud mewn sefyllfa arbennig. Mae e’n cyffwrdd â phobol wrth siarad â nhw.”
Does wybod eto a fydd Makélélé yn dal i fod yn Abertawe’r tymor nesa’, ond un peth sy’n sicr, fe fydd e a Paul Clement yn gwneud yn fawr o’u cyfle ddydd Sadwrn i brofi fod ganddyn nhw bartneriaeth fydd yn ddigon i gadw’r Elyrch yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesa’. Ai arwain ei dîm allan yn Stamford Bridge ddydd Sadwrn fydd uchafbwynt gyrfa Paul Clement hyd yn hyn, tybed?
“Roedd yn wych cael arwain y tîm allan yn Anfield. Roedd yn wych cael arwain y tîm allan yn Manchester City. Ond mae sut fydda i’n teimlo am hynny’n dibynnu sut mae’r gêm yn mynd.”
Mae Paul Clement eisoes wedi profi ei hun drwy arwain ei dîm i fuddugoliaeth dros Lerpwl yn Anfield, a chael ei enwi’n rheolwr y mis fis diwethaf. Mae ei daith yntau a’i is-hyfforddwr wedi mynd â nhw i Real Madrid, Paris St. Germain a Chelsea. Ond fe allai eu taith ddiweddaraf i Stamford Bridge – cyn mis prysur ym mis Mawrth sy’n cynnwys gemau yn erbyn Burnley, Hull a Bournemouth – benderfynu a fydd yr Elyrch yn suddo neu’n arnofio rhwng nawr a mis Mai.