Cefnogwyr Cymru'n dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg yn Lille (Llun: Owain Schiavone)

Owain Schiavone sy’n trafod gwaddol llwyddiant tîm pêl-droed Cymru.

Mae wedi bod yn bedair wythnos anhygoel a bythgofiadwy, ond mae taith fer ond ymgyrch enfawr Cymru yn Ewro 2016 wedi dod i ben.

Mae Chris Coleman a’i dîm wedi dal llygad a chalonnau’r byd yn ystod eu hymgyrch yn Ffrainc, ac fel cefnogwyr rydym wedi crio, chwerthin, canu, dawnsio a breuddwydio wrth ddathlu llwyddiant y grŵp rhyfeddol yma o ddynion ifanc.

Er gwaethaf yr iwfforia ar y ffordd, gwirionedd hallt pencampwriaeth bêl-droed fel Ewro 2016, ydy mai gorffen gyda siom mae taith pawb ond un tîm. Yn achos Cymru, fydd y siom ddim yn para’n hir wrth i ni edrych yn ôl ar ymgyrch aruthrol o lwyddiannus.

Yn y byd chwaraeon, rhywbeth byrdymor ydy llwyddiant hefyd ond mae’n weddol sicr y bydd llwyddiant tîm Cymru yn Ewro 2016 yn amlwg am flynyddoedd i ddod. Yn wir, efallai na welwn ni lawn waddol y llwyddiant am amser maith, gymaint yr impact ehangach mae’r tîm wedi’i greu.

Dechrau’r daith

Wrth ddangos ein gwerthfawrogiad i dîm Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’r rhan fwyaf ohonom wedi diolch iddynt am y ‘daith’. Mae wedi bod yn dipyn o daith, ond taith fer oedd Ewro 2016 mewn gwirionedd, a dim ond dechrau’r daith i’r tîm arbennig yma fydd gobeithio’n dathlu sawl llwyddiant arall mewn crys coch Cymru.

Er gwaetha’r profiad yn y tîm, a’r nifer capiau, mae hon yn dal i fod yn garfan ifanc.

O’r garfan o 23, dim ond 4 chwaraewr sy’n 30 oed neu hŷn – David Vaughan (33), James Collins (32), Ashley Williams (31), a Dave Edwards (30). Mae’r rhan fwyaf o’r garfan fel arall yn 26 neu 27 oed, sy’n golygu bod gan y rhan fwyaf o’r garfan yma gyfle i chwarae mewn o leiaf tair ymgyrch arall i Gymru – Cwpan y Byd 2018, Ewro 2020 a Chwpan y Byd 2022.

Yn ogystal â hynny mae ‘na nifer o chwaraewyr yn eu hugeiniau cynnar sydd wedi bod ar gyrion y garfan yn ystod yr ymgyrch ac a fydd ar dân i dorri mewn yn y cyfnod nesaf – Lloyd Isgrove, Tom Lawrence, Paul Dummett, Emyr Huws, Adam Henley, Declan John i enwi rhai.

Ychwanegwch at hynny chwaraewyr addawol iawn sy’n y tîm dan 21 fel Gethin Jones o Everton, Harry Wilson o Lerpwl, Billy O’Brien o Man City a Tyler Roberts o West Brom, ac mae’r dyfodol tymor byr yn edrych yn ddisglair.

Y genhedlaeth nesaf

Mae llwyddiant yn magu mwy o lwyddiant. Yn ystod yr ymgyrch ragbrofol, ac yna’r rowndiau terfynol, rydym wedi gweld y diddordeb mewn pêl-droed Cymru’n tyfu a thyfu.

Fe welwyd miloedd yn teithio i Ffrainc, ffanbarthau newydd yn agor ledled Cymru wrth i’r daith barhau, a does wybod faint o grysau coch mae Adidas wedi gwerthu dros  yr wythnosau diwethaf.

Denodd y gêm go gynderfynol yn erbyn Gwlad Belg 1.27 miliwn o wylwyr yng Nghymru yn ôl y BBC – record ar gyfer gêm fyw.

‘Bandwagon’? Wrth gwrs ond law yn llaw a hynny, yr hyn mae’r tîm yma wedi llwyddo i wneud yn fwy na dim ydy ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr. Does gen i ddim amheuaeth y bydd nifer o’r bechgyn a merched bach sydd wedi dangos diddordeb mewn pêl-droed am y tro cyntaf dros y mis diwethaf yma’n cynrychioli eu gwlad mewn blynyddoedd i ddod.

Dros yr wythnosau diwethaf dwi di clywed hanesion am fy mhlant a’u ffrindiau chwarae pêl-droed  yn yr ysgol ac yn galw’i hunain yn Ramsey, Taylor a Robson-Kanu yn hytrach na Rooney, Messi a Ronaldo. Bendigedig.

Yr iaith

Wrth i Loegr ddiflannu o’r bencampwriaeth, mae gweld y cyfryngau Prydeinig a Rhyngwladol yn cymryd diddordeb yn nhîm Cymru wedi bod yn ddoniol, ond hefyd diddorol.

Wrth dalu mymryn mwy o sylw, maen nhw wedi sylweddoli ar yr hyn roedden ni eisoes yn gwybod – mae Cymru’n fwy na ‘thîm un dyn’, ac mae’r tîm yma’n grŵp arbennig iawn o bobl.

Yr hyn sydd wedi bod yn drawiadol hefyd ydy gweld cymaint o’r cyfryngau’n rhoi lle amlwg i’r iaith Gymraeg. Rydan ni wedi gweld y Gymraeg ar dudalennau blaen y rhan fwyaf o’r papurau Prydeinig ac yn cael ei ddefnyddio i agor rhaglenni radio a theledu o bob math.

Ychwanegwch at hynny’r holl gwmnïau rhyngwladol sydd wedi neidio ar y bandwagon a defnyddio’r Gymraeg i hyrwyddo eu cynnyrch – Adidas, Budweiser, Carlsberg, Play Station i enwi dim ond rhai.

Rydan ni wedi gweld ‘Llongyfarchiadau’ yn ymddangos  ar fyrddau hysbysebu ar ddiwedd gemau a chwestiynau Cymraeg yn cael eu gofyn am y tro cyntaf mewn cynhadledd i’r wasg swyddogol UEFA.

Mae rhoi llwyfan rhyngwladol fel hyn i’r Gymraeg yn hwb enfawr i’r iaith, yn hybu ymwybyddiaeth ohoni ac yn siŵr o annog pobl i’w dysgu a’i defnyddio.

Rhaid canmol Cymdeithas Bêl-droed Cymru am barchu’r iaith, ac Ian Gwyn Hughes yn enwedig am sicrhau lle amlwg iddi ym mhob agwedd o weithgarwch y Gymdeithas.

Hwb ariannol

Mae llwyddiant y tîm yn hwb enfawr i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae hynny’n newyddion da i’r gêm ar bob lefel.

Yn ôl y sôn, bydd Cymru’n derbyn €18 miliwn am gyrraedd y rownd gynderfynol, a dwi’n weddol siŵr bydd y llwyddiant yn agor drysau nawdd newydd i Brif Weithredwr y Gymdeithas, Jonathan Ford.

Dyma arian fydd yn cael ei fuddsoddi’n bennaf dwi’n siŵr yn y gêm ar lawr gwlad, a bydd hynny, gydag amser yn bwydo i fyny i’r timau rhyngwladol. Yn bennaf oll, mae’n siŵr o olygu cyfleoedd i fwy o blant chwarae, a mwynhau’r gêm sydd wedi rhoi cymaint o foddhad i lawer iawn ohonom.

Rhaid peidio anghofio hefyd am yr hwb i’r economi Gymreig yn ystod yr ymgyrch, gyda llawer o dafarnau, cwmnïau bysus a busnesau eraill yn manteisio.

Mae rhain i gyd yn bethau tymor hir cadarnhaol fydd yn tyfu o lwyddiant Gareth Bale a’i gyfeillion – mae’n brawf bod pêl-droed  yn fwy na dim ond gêm, mae’n gallu rhoi hwb diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd.

Yn fwy na hyn oll, mae’r tîm yma wedi rhoi Cymru ar y map ac ysgogi balchder newydd mewn bod yn Gymro.