Mae’r bowliwr cyflym o Awstralia, Shaun Tait wedi’i gynnwys yng ngharfan Morgannwg am y tro cyntaf wrth i Siarcod Swydd Sussex ymweld â Chaerdydd nos Iau.

Tait fydd yn chwarae yn ystod ail hanner y gystadleuaeth yn dilyn ymadawiad y bowliwr cyflym o Dde Affrica, Dale Steyn sydd yn chwarae i Jamaica yn y Caribbean Premier League.

Mae’r bowliwr cyflym arall o Awstralia, Michael Hogan yn holliach ar ôl cael ei daro yn ystod y gêm Bencampwriaeth rhwng y ddwy sir ddechrau’r wythnos, ac mae Chris Cooke a Colin Ingram yn dychwelyd i’r garfan ar ôl cael cyfle i orffwys.

Fe allai Morgannwg fod nifer o gamau’n nes at rownd yr wyth olaf ar ôl y deuddydd nesaf, wrth iddyn nhw deithio i Richmond nos Wener i herio Swydd Middlesex.

Dywedodd batiwr Morgannwg, Colin Ingram, sydd ar frig tabl y prif sgorwyr yn y gystadleuaeth eleni: “Ry’n ni mewn lle da hanner ffordd drwy’r gystadleuaeth ond mae tipyn o griced i’w chwarae o hyd.

“Gobeithio y gallwn ni ddefnyddio peth o’r momentwm ry’n ni wedi’i greu a pharhau i berfformio’n dda.

“Mae angen i chi fod yn chwarae criced da tua diwedd yr ymgyrch os ydych chi am gymhwyso.”

Mae’r Siarcod yn drydydd yn y tabl ac yn eu carfan nhw unwaith eto mae bowlwyr Lloegr, Chris Jordan a Tymal Mills, ynghyd â’r bowliwr cyflym o Sri Lanca, Nuwan Kulasekera.

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), D Lloyd, C Ingram, A Donald, C Cooke, G Wagg, C Meschede, S Tait, M Hogan, A Salter, D Cosker, T van der Gugten, M Wallace

Carfan Siarcod Swydd Sussex: W Beer, D Briggs, C Cachopa, H Finch, C Jordan, N Kulasekara, M Machan, T Mills, C Nash, P Salt, A Shahzad, R Taylor, L Wright (capten)