Cefnogwyr Cymru yn dathlu yn Lille
Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd cefnogwyr Cymru yng Nghaerdydd yn cael y cyfle i groesawu chwaraewyr a staff y tîm pêl-droed cenedlaethol yn dilyn eu hymgyrch hanesyddol ym mhencampwriaeth Ewro 2016, mae ymgyrch ar y gweill i sicrhau bod cefnogwyr y gogledd yn cael yr un cyfle.

Bydd y Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnal digwyddiad arbennig i gefnogwyr pêl-droed Cymru yng Nghaerdydd ddydd Gwener i ddathlu llwyddiant y garfan a Chris Coleman.

Cyn  y digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd y chwaraewyr yn mynd ar daith fws to agored o amgylch canol y ddinas.

Ond mae ymgyrchydd lleol yn ardal Wrecsam, Andrew Atkinson, wedi lansio ymgyrch i sicrhau bod cefnogwyr y gogledd hefyd yn cael y cyfle i groesawu’r chwaraewyr nol i Gymru.

Roedd Andrew Atkinson, ynghyd a Focus Wales, wedi trefnu digwyddiad yng nghlwb y Central Station, yn Wrecsam neithiwr gyda sgrin fawr i wylio’r gêm a cherddoriaeth byw.

‘Ysbrydoli’r genedl gyfan’

Nawr, mae ei ymgyrch wedi cael ei gefnogi gan y Ceidwadwyr Cymreig sydd o’r farn bod ymdrechion y tîm wedi ysbrydoli’r wlad gyfan a’i bod hi’n hanfodol bod Cymru i gyd yn cael y cyfle i dalu teyrnged iddyn nhw.

Dywedodd AC Gogledd Cymru Mark Isherwood: “Mae’r ymgyrch lawr gwlad hon yn cael fy nghefnogaeth lawn.

“Mae ymdrechion tîm Cymru wedi ysbrydoli’r genedl gyfan. Byddai’n wych gweld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i sicrhau digwyddiad yng ngogledd Cymru hefyd, yn dilyn y dathliadau yng Nghaerdydd ddydd Gwener.”

Gwylio’n fyw ar S4C a BBC Cymru

I’r rhai sydd ddim yn gallu bod yng nghanol Caerdydd i ddiolch i’r tîm, fe fydd modd gwylio’r orymdaith rhwng 4 a 5.30 yn fyw ar S4C.

Mi fydd Heno yn darlledu yn fyw o Stadiwm Dinas Caerdydd am 7.00, ble mae cyngerdd yn cael ei chynnal gyda’r band Manic Street Preachers ymysg y sêr.

Bydd BBC Cymru hefyd yn dilyn y tîm wrth iddyn nhw gyrraedd yn ôl i Gymru, yn ogystal â digwyddiad Croeso’r Cefnogwyr, gyda darllediadau ar deledu, radio ac ar-lein yn Gymraeg ac yn Saesneg.