Dean Saunders
Mae maes awyr wedi na fydd Dean Saunders yn cael dirwy wedi’r cwbl ar ôl iddo adael ei gar mewn maes parcio arhosiad byr, gan nad oedd yn credu y byddai ymgyrch Ewro 2016 Cymru wedi para cyhyd.

Dywedodd Maes Awyr Birmingham y gallai’r sylwebydd teledu a chyn ymosodwr Cymru roi’r ddirwy, sydd dros £1,000, i elusen o’i ddewis.

Cafodd Cymru eu trechu 2-0 gan Bortiwgal yn y rownd gynderfynol neithiwr er nad oedd y rhan fwyaf, gan gynnwys Dean  Saunders, yn disgwyl iddyn nhw wneud gystal.

Roedd Dean Saunders wedi mynd i Ffrainc fel sylwebydd i’r BBC a dywedodd yn fyw ar Radio Five Live ei fod yn disgwyl dirwy anferth pan oedd yn dychwelyd adref.