Cymru yn dathlu cyrraedd Ewro 2016 (llun: Adam Davy/PA)
Bydd cefnogwyr Cymru yn cael y cyfle i groesawu chwaraewyr a staff y tîm pêl-droed cenedlaethol yn dilyn ymgyrch hanesyddol ym mhencampwriaeth Ewro 2016.
Bydd y Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnal digwyddiad arbennig i gefnogwyr pêl-droed Cymru yng Nghaerdydd i ddathlu llwyddiant y garfan a Chris Coleman.
Cafodd y tîm eu trechu gan Bortiwgal yn y rownd gynderfynol nos Fercher.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Gwener 8 Gorffennaf am 5.15yh. Mae disgwyl i’r adloniant gynnwys perfformiad gan y Manic Street Preachers a sgwennodd gan swyddogol Cymru ar gyfer y bencampwriaeth.
Gwnaethpwyd y cyhoeddiad wrth i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones ddweud bod llwyddiant y tîm wedi “cydio yn nychymyg y genedl.”
Cyfle i bawb ddathlu
Wedi iddyn nhw lwyddo i gyrraedd y bencampwriaeth fawr gyntaf ers 1958, llwyddodd Cymru i orffen ar frig eu grŵp oedd yn cynnwys Lloegr, Slofacia a Rwsia cyn mynd ymlaen i gyrraedd y rownd gynderfynol gan guro Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg ar y ffordd.
Meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod y gefnogaeth yn Ffrainc a nôl yng Nghymru wedi bod yn rhyfeddol, a bod y digwyddiad hwn yn gyfle i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr ddathlu gyda’i gilydd.
Parêd
Cyn y digwyddiad, bydd y tîm yn mynd ar daith fws to agored o amgylch canol y ddinas.
Mae disgwyl i’r daith gychwyn yng Nghastell Caerdydd am 4yh gan orffen yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 5.30yh. Bydd manylion pellach am y llwybr yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach.
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford: “Rydym yn teimlo’r digwyddiad hwn yn ffordd wych o gael pawb gyda’i gilydd i ddathlu’r cyfnod hanesyddol hwn i bêl-droed Cymru.
“Mae’r golygfeydd yr ydym wedi gweld gartref a draw yn Ffrainc wedi bod yn wych ac rydym yn gobeithio y gall ein cefnogwyr brwd fwynhau un moment arall gyda’r chwaraewyr i ddod a’r ychydig wythnosau cofiadwy hyn i ben.”
‘Cydio yn nychymyg y genedl’
Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Ar ôl disgwyl am 58 o flynyddoedd am le mewn pencampwriaeth fawr, nid yw Ewro 2016 wedi siomi. Roedd cyrraedd y twrnamaint ei hun yn orchest ond diolch i’n perfformiadau yn Ffrainc, mae hi wedi bod yn amhosib ein diystyru. Sôn am daith mor gyffrous sydd wedi cydio yn nychymyg y genedl!
“Ond mae hon wedi bod yn fwy na phencampwriaeth bêl-droed i Gymru – mae hi wedi bod yn gyfle digynsail i ddangos i bawb ein bod yn wahanol. Bod gennym ddiwylliant unigryw, gwerthoedd unigryw a phobl unigryw – ac mae biliynau o bobl trwy’r byd yn deall hynny erbyn hyn.
“Mae perfformiad y tîm ar y cae wedi bod yn wych, felly hefyd yr argraff mae’n cefnogwyr wedi’i gadael ar Ffrainc ac ar weddill y byd – mae’ch gwlad yn falch iawn, iawn ohonoch chi.”
‘Ymroddiad’ ac ‘angerdd’
Ac mewn llythyr at y gymdeithas bêl-droed, mae prif weithredwr S4C, Ian Jones, wedi canmol “ymroddiad” ac “angerdd” y tîm.
Meddai Ian Jones: “Mae’r ymroddiad a’r angerdd mae’r tîm wedi ei ddangos ar y cae, ac oddi arni, i’w ganmol. Maen nhw wedi cynrychioli ein gwlad gyda balchder a gosod Cymru ar y map ymhlith holl wledydd Ewrop.
“Rydych chi wedi rhagori ac wedi creu hanes fel y tîm cyntaf i gynrychioli Cymru mewn gêm gynderfynol, am y tro cyntaf erioed. Mae eich llwyddiant i gyflawni hynny, er gwaetha’r sgôr, yn destun balchder enfawr i ni.
“Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi clywed am falchder y chwaraewyr yn hunaniaeth Cymru, yn hanes y wlad ac yn yr iaith Gymraeg. Mae hynny wedi cyfrannu llawer at deimlad o undod ymhlith y genedl wrth i ni ymfalchïo yn ei llwyddiant. Mae ei llwyddiant wedi cael sylw ar draws Ewrop ac wedi gosod ein balchder fel cenedl yng nghanol y sylw.
“Am hynny, ac wrth gwrs am y pêl-droed, dyma ein tro ni i ddweud ‘Diolch’.”
Gwylio’n fyw ar S4C a BBC Cymru
I’r rhai sydd ddim yn gallu bod yng nghanol Caerdydd i ddiolch i’r tîm, fe fydd modd gwylio’r orymdaith rhwng 4 a 5.30 yn fyw ar S4C.
Mi fydd Heno yn darlledu yn fyw o Stadiwm Dinas Caerdydd am 7.00, ble mae cyngerdd yn cael ei chynnal gyda’r band Manic Street Preachers ymysg y sêr.
Bydd BBC Cymru hefyd yn dilyn y tîm wrth iddyn nhw gyrraedd yn ôl i Gymru, yn ogystal â digwyddiad Croeso’r Cefnogwyr, gyda darllediadau ar deledu, radio ac ar-lein yn Gymraeg ac yn Saesneg.