Chris Coleman a Gareth Bale wedi'r gêm rhwng Cymru a Phortiwgal nos Fercher Llun: PA
Mae ymgyrch Cymru yn Ewro 2016 ar ben ond, ar ôl mis bythgofiadwy yn Ffrainc, mae’r hyfforddwr Chris Coleman yn mynnu nad dyma fydd diwedd y daith i’r tîm.

Llai ‘na phum mlynedd ers cael eu rhoi yn y 117eg safle yn y byd, ac yn dilyn cyfnodau caled iawn, roedd cyrraedd gêm y rownd gynderfynol ddydd Mercher yn Lyon yn uchafbwynt anferth yn hanes pêl droed Cymru.

Colli gwnaeth y tîm yn erbyn Portiwgal yn rownd y pedwar olaf, gyda Cristiano Ronaldo a Nani yn llwyddo i sgorio ddwywaith o fewn pum munud yn ystod yr hanner olaf.

Ond, mae Chris Coleman a’r bechgyn yn dod yn ôl i Gymru’n arwyr, gyda chanu’r cefnogwyr yn Lyon yn parhau drwy’r nos er gwaethaf y canlyniad.

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi dweud hefyd ei fod yn trafod ar hyn o bryd i drefnu digwyddiad croeso i’r tîm, pan fyddan nhw’n dod nôl adre.

Balchder

Dywedodd Chris Coleman ar ôl y gêm, ei fod “mor falch” o’r tîm a bod eu hymgyrch yn Ffrainc wedi bod yn “anhygoel.”

“Mae colli wastad yn brifo. Do’n i ddim yn disgwyl iddo frifo cymaint a hyn. Ond pan fyddan nhw’n edrych yn ol, fe fydd y chwaraewyr yn gwybod pa mor dda y maen nhw wedi gwneud dros eu gwlad.

“Yr unig gêm wnaethon ni ddim ei gwneud oedd gêm Lloegr, pan gollon ni a wnaethon ni fyth ddangos pwy oeddem ni, wnaethon ni ddim dangos ein hunaniaeth.

“Ond y gemau eraill y maen nhw wedi’u gwneud a gallwch chi ond gofyn i rywun am ei orau. Dyna’r cwbl.

“Os ydych yn colli ac rydych wedi gwneud eich gorau, dyna’r ffordd mae hi yn anffodus.

“Ein tro ni oedd colli heno ond dywedais wrth y chwaraewyr, waeth beth fydd diwedd y daith yn y bencampwriaeth hon, nid hwn yw’r diwedd i’r grŵp hwn o chwaraewyr.

“Byddan nhw yma llawer yn hirach nag y bydda’ i fel rheolwr, does dim amheuaeth am hynny.”

“Yr un awch” tro nesa’

Dywedodd y byddai’r tîm yn dechrau ar yr ymgyrch nesaf gyda’r “un awch a’r un awydd” ag sydd wedi bod yn y gystadleuaeth hon.

“Rydym yn gwybod yr hyn gallwn ei wneud yn dda, fyddwn ni ddim yn newid yr hyn a lwyddodd ein cael ni yma yn y lle cyntaf.

“Mae’n rhaid i ni fynd i’r ymgyrch nesaf gyda’r un awch a’n bod wir yn canolbwyntio ar y presennol. Yr un awch a’r un awydd sydd wedi bod gennym ni yn y ddwy i dair blynedd ddiwethaf.”

Rhoi Cymru ar y map

Yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones, oedd yn gwylio’r gêm ym Mharis nos Fercher, mae’r tîm wedi codi ymwybyddiaeth y byd o Gymru ac y gallwn fod yn “falch iawn” ohonyn nhw.

“Mae llawer iawn o bobol ar strydoedd Paris yn sôn am Gymru, ro’n i’n clywed y geiriau Pays de Galles, ac un o’r pethau ry’n ni wedi bod yn ymladd dros y blynyddoedd yw trio esbonio i bobol ble mae Cymru ac esbonio nad yw Cymru’n rhan o Loegr,” meddai ar raglen y Post Cyntaf.

“Nid felly mae hi dros y mis diwethaf, mae pethau wedi troi ar ei ben achos nawr mae pobol yn nabod Cymru, yn gwybod bod Cymru’n wahanol ac, wrth gwrs, y tîm da dros ben sydd gyda ni.

“Os  y’n ni’n ystyried y gystadleuaeth i gyd, allwn ni fod yn falch iawn o’r tîm a’r rheolwyr.

“Mae gennym ni dîm nawr, allwn ni adeiladu nawr achos er bod y daith wedi dod i ben neithiwr, dw i ddim yn meddwl bod y freuddwyd drosodd eto.”

Croeso adre’

Ychwanegodd ei fod mewn trafodaethau ar hyn o bryd i drefnu digwyddiad i groesawu’r tîm adre.

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi galw am gynnal taith fws agored ledled Cymru i bawb gael y cyfle i ddweud ‘diolch’ wrth y chwaraewyr.