Torf Cymru - 'y wal goch' - yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg yn Lille (Llun: Owain Schiavone)
Ar drothwy gêm hanesyddol arall i dîm Cymru, mae’n iawn bod yn obeithiol yn Lyon, meddai Owain Schiavone
Daeth dydd lle bydd mawr y rhai bychain…gobeithio!
Beth bynnag y canlyniad yn erbyn Portiwgal heno, mae Cymru wedi dal dychymyg, a chalonnau, y byd pêl-droed wrth gyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016.
Roedd y perfformiad yn erbyn Gwlad Belg yn wefreiddiol – nid yn unig y cymeriad i ddod yn ôl o ildio gôl yn gynnar yn y gêm, ond yna mynd ymlaen i reoli’r chwarae am y rhan fwya’ o’r 77 munud oedd yn weddill.
Mae modd dadlau bod elfen o lwc, a pherfformiad amddiffynnol dewr gan ‘dîm bach’ yn y canlyniadau rhagbrofol yn erbyn y Belgiaid ond, yn Lille, Cymru oedd y tîm gorau.
Er gwaetha’ barn sylwebwyr rhyngwladol ar ddechrau’r bencampwriaeth, dyw hi ddim yn syndod bod y math yma o ganlyniad yn nhîm Cymru. Wedi’r cyfan, mae gynnon ni un o chwaraewyr gorau’r byd; ar ei ddydd un o chwaraewyr canol cae gorau’r Uwch Gynghrair yn Aaron Ramsey; Joe Allen sy’n dduw yn llygaid y rhan fwyaf o gefnogwyr Abertawe a Chymru; un o amddiffynwyr mwyaf cyson yr Uwch Gynghrair dros y blynyddoedd diwetha’ a llond llaw o chwaraewyr eraill profiadol o Uwch Gynghrair Lloegr.
Ysbryd
Nid y ffaith ein bod ni’n gallu curo timau rhyngwladol da fel Slofacia, Rwsia a Gwlad Belg sy’n syndod i bobol y tu allan i Gymru, ond yn hytrach y ffordd mae’r garfan yma wedi mynd o’i chwmpas hi. Mae cymariaethau wedi eu dwyn â llwyddiant Caerlŷr yn ennill Uwch Gynghrair Lloegr. Mae hynny’n deg, ac mae’n rhyfedd gweld dwy stori o’r fath yn yr un tymor, straeon sydd wedi adfer ffydd nifer fawr o bobol yn y gêm.
Go brin fod unrhyw un wedi gweld y fath ysbryd tîm mewn pencampwriaeth fel hyn o’r blaen – maen nhw’n chwa o awyr iach. Mae’r chwaraewyr wedi sôn fod y profiad fel bod ar wyliau gyda theulu, ac mae’n hawdd credu hynny o weld y lluniau a fideos sy’n dod o’r gwersyll yn Dinard.
Mae pawb wedi dotio gyda dawnsio Joe Ledley, a gweld plant y chwaraewyr yn ymuno â’r dathlu ar y cae, er bod UEFA bellach yn ceisio taflu dŵr oer ar hynny.
Wrth siarad â chefnogwyr gwledydd eraill yn Ffrainc rydw i, fel nifer o gefnogwyr dwi’n siŵr wedi yngan y geiriau “we’re just happy to be here” wrth bron bob un. Dyna deimlad y garfan hefyd– y fuddugoliaeth fawr i Gymru oedd cyrraedd Ewro 2016 ac mae’r pwysau wedi’i ryddhau’n llwyr wedi hynny.
Dwi wedi gweld ambell un yn annog pobol i beidio cyffroi gormod am y gêm yn erbyn Portiwgal, ac yn poeni am yr holl heip. Mae arna’i ofn bod hynny’n anochel – rydan ni’n rownd gynderfynol yr Ewros bois.
Mae Cymru i raddau wedi llithro o dan y radar tan nos Wener diwetha’, ond pan fyddwch chi’n curo ail dîm gorau’r byd yn gyfforddus i gyrraedd rownd gynderfynol, mae pobl yn mynd i ddechrau sylwi. Mae’n rhaid i ni dderbyn hynny, mwynhau’r sylw a bod yn hyderus y gall y tîm yma gyrraedd y ffeinal.
Problem Portiwgal
Dw i ddim yn credu bod Cymru’n ffefrynnau. Dw i ddim yn credu bod yna ffefrynnau o gwbl pan fyddwch chi’n cyrraedd y pedwar olaf gan bod pob tîm wedi gwneud yn dda i gyrraedd y cam yma.
Maey‘na ambell ffaith o blaid Cymru…yr amlyca’ ydy bod Portiwgal heb ennill gêm eto yn y bencampwriaeth – tair gêm gyfartal yn y grŵp, a dwy fuddugoliaeth ar giciau o’r smotyn wedi hynny. Mae Cymru ar y llaw arall wedi ennill 4 o’u 5 gêm, gan golli i Loegr mewn perfformiad y maen nhw wedi dysgu oddi wrtho.
Wedi dweud hynny, mae Portiwgal wedi dangos dygnwch aruthrol ac mae ganddyn nhw chwaraewyr arbennig o dda – yn ymosodol Nani, Quaresma, Renato Sanchez ac, wrth gwrs Ronaldo. Dyma chwaraewyr sydd i gyd yn gallu creu rhywbeth o ddim byd, a bydd yn rhaid i amddiffyn Cymru fod ar eu gorau.
Yn amddiffynnol ar y llaw arall, yn debyg iawn i Wlad Belg, mae gan y gwrthwynebwyr ambell broblem. Mae’r chwaraewr canol cae amddiffynnol William Carvalho wedi’i wahardd ac mae amheuaeth am y dyn drwg Pepe sydd ag anaf.
Pwy ddylai chwarae?
Bydd dau chwaraewr dylanwadol yn eisiau gan Gymru hefyd wrth gwrs. Yn fy marn i, Ben Davies ydy chwaraewr mwya’ cyson Cymru yn y bencampwriaeth ac, ers y gêm yn erbyn Lloegr, mae Aaron Ramsey wedi bod yn ardderchog.
Mae nifer am weld Jazz Richards yn dechrau yn gefnwr de, gyda Gunter yn symud i’r canol. Dw i’n credu bod symud chwaraewyr o gwmpas, yn enwedig yn yr amddiffyn, yn beryglus ac mae Gunter wedi bod yn wych ar y dde yn y gêmau diwetha’. James Collins i lenwi esgidiau Davies yn y canol i mi felly – amddiffynnwr profiadol fydd yn gallu gwneud job dda i ni.
Y peth cadarnhaol ynglŷn â cholli Ramsey ydy bod opsiynau gan Coleman. Y dewis saff fyddai Andy King, ond mae Jonny Williams wedi gwneud cyfraniad enfawr ym mhob ymddangosiad a fyswn i wrth fy modd yn gweld Joniesta’n rhedeg at Pepe yng nghanol yr amddiffyn.
Dwi’n amau mai dechrau efo King a defnyddio Jonny o’r fainc eto fydd hi, ond mae Coleman wedi bod yn ddewr gyda’r ddewisiadau trwy’r ymgyrch.
Dw i ddim yn credu bydd y ddau newid yma’n ormod o broblem – bydd pwy bynnag sy’n cymryd lle Ramsey a Davies yn benderfynol o greu argraff.
Iawn bod yn hyderus
Os all Cymru godi safon eu chwarae’n agos at eu lefel yn erbyn Gwlad Belg, byddan nhw’n curo Portiwgal ond mi fydd y gwrthwynebwyr yn ymwybodol iawn o’r bygythiad. Mae’n iawn i ni fod yn hyderus – mae’n sarhad i’r tîm i beidio.
Beth bynnag y canlyniad heno, mae’r criw yma o hogia’ wedi rhoi antur a hanner i ni dros yr wythnosau diwethaf ac wedi gwneud pawb yn falch o fod yn Gymro.
Maen nhw wedi dal sylw, ac ennill parch y byd ar y cae ac oddi arno ac wedi rhoi cyfle heb ei debyg o’r blaen i ni freuddwydio.