Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi arwyddo’r amddiffynnwr canol Mike van der Hoorn o Ajax ar gytundeb tair blynedd.

Van der Hoorn yw’r ail Iseldirwr o fewn deuddydd i arwyddo cytundeb parhaol gyda’r clwb, ar ôl i Leroy Fer, oedd ar fenthyg yn y Liberty y tymor diwethaf, benderfynu aros yn Abertawe.

Mae arwyddo Van der Hoorn, 23, yn cynnig opsiwn ychwanegol yng nghanol yr amddiffyn ac yn ychwanegiad cryf at uned amddiffynnol sydd eisoes yn cynnwys capten Cymru Ashley Williams, Federico Fernandez a Jordi Amat. Mae Kyle Bartley wedi mynd ar fenthyg i Leeds am dymor.

Dechreuodd Van der Hoorn ei yrfa gydag Utrecht, lle cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Tymor yn 2013, ac fe symudodd i Ajax yn fuan wedyn.

Fe enillodd gynghrair yr Eredivisie yn ei dymor cyntaf, cyn gorffen yn ail ddau dymor yn olynol.

Chwaraeodd dros Ajax 43 o weithiau, gan sgorio tair gôl.

Cafodd ei gynnwys yng ngharfan yr Iseldiroedd yn 2013, ond dydy e ddim wedi ennill ei gap eto.

Ond roedd yn aelod o’r tîm cenedlaethol dan 21 a gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Pencampwriaethau Ewrop dair blynedd yn ôl.