Mae’r Seintiau Newydd wedi cyrraedd ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr ar ôl curo Tre Penne o San Marino o 3-0 nos Fawrth.
Byddan nhw’n herio Apoel Nicosia o Gyprus yn y rownd nesaf.
Aeth y Cymry ar y blaen tua diwedd yr hanner cyntaf wrth i Scott Quigley ergydio i gefn y rhwyd.
Lai na dwy funud wedi’r egwyl, dyblodd y Seintiau Newydd eu mantais wrth i Aeron Edwards ergydio o ganol y cwrt cosbi i gornel dde isa’r rhwyd.
Greg Draper sgoriodd y drydedd gôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau, gyda gôl debyg iawn i honno gan Edwards.
2-1 orffennodd y cymal cyntaf ac felly mae’r Cymry’n mynd drwodd o 5-1 dros y ddau gymal.
Record y Seintiau Newydd yn Ewrop erbyn hyn yw ennill chwech allan o 43 o gemau, ond nhw yw’r unig dîm erioed o Gymru i ennill y rownd hon fwy nag unwaith.
Ond y drydedd rownd yw’r pellaf y maen nhw erioed wedi mynd yn Ewrop, gan golli o 6-1 yn erbyn Anderlecht o Wlad Belg yn 2010-11.