Tarodd y chwaraewr amryddawn o Lanelwy, David Lloyd 102 heb fod allan wrth i’r ornest griced rhwng Morgannwg a Swydd Sussex yn ail adran y Bencampwriaeth orffen yn gyfartal ddydd Mawrth.

Ar un adeg ar ôl cinio, roedd Morgannwg yn 108-4, ond pan ddaeth Lloyd ac Aneurin Donald at ei gilydd, ychwanegon nhw 86 at y cyfanswm cyn i Donald gael ei fowlio gan Ajmal Shahzad am 44.

Cafodd Lloyd ei ollwng gan Luke Wright ar 66 ac fe aeth y batiwr ymlaen i adeiladu partneriaeth o 93 gyda’r capten Jacques Rudolph cyn cyrraedd ei ganred.

Roedd batiad Lloyd yn cynnwys 14 pedwar ac un chwech, ac roedd Morgannwg yn 307-6 pan ddaeth yr ornest i ben.

Crynodeb

Ar ôl batio’n gyntaf, sgoriodd Morgannwg 335-9 yn eu batiad cyntaf, wrth i Rudolph daro 87, ac roedd hanner canred hefyd i’r Awstraliad ifanc Nick Selman (52).

Sgoriodd Lloyd a Donald 37 yr un wrth i’r bowlwyr Stuart Whittingham (4-58) a Steve Magoffin (3-54) roi’r pwysau ar y Cymry.

Dim ond naw wiced oedd wedi cwympo wrth i’r batiad ddod i ben, ar ôl i Michael Hogan ymddeol ag anaf ar ôl cael ei daro ar ei ben gan fownsar.

Wrth ymateb, sgoriodd y Saeson 552-5, wrth i Luke Wells (181), Ben Brown (159*) ac Ed Joyce (106) ddangos bod y llain yn addas ar gyfer y batwyr.

Gan ddechrau eu hail fatiad 217 ar ei hôl hi, perfformiad canmoladwy a gafwyd gan fatwyr Morgannwg yn y pen draw i achub yr ornest hon.