Mae gan Chris Coleman record dda gyda Chymru'n erbyn Gwlad Belg
Wrth i Gymru baratoi ar gyfer y gêm fwyaf (unwaith eto) yn hanes y tîm rhyngwladol, Owain Schiavone sy’n ystyried sut mae tîm Chris Coleman yn mynd ati i guro cewri Gwlad Belg.

Nhw ydy’r ail dîm gorau yn y byd yn ôl rhestr detholion FIFA, mae ganddyn nhw dîm yn llawn sêr sy’n gyfarwydd i bob cefnogwr pêl-droed, ac maen nhw newydd ennill eu gêm rownd 16 olaf Ewro 2016 yn gyfforddus o 4-0.

Sut yn y byd all Cymru guro Gwlad Belg felly? Dyna’r cwestiwn sydd ar wefusau pob Cymro sy’n dilyn anturiaethau tîm Chris Coleman, boed nhw ar y goets ers blynyddoedd neu wedi neidio arni’n fwy diweddar.

Fydd hi ddim yn hawdd yn Lille nos Wener, ond y newyddion cadarnhaol ydy mai rheolwr Cymru ydy un o’r ychydig rai mewn cof diweddar sy’n gwybod yr ateb i’r cwestiwn hwnnw.

Y Bygythiad

Mae gan Wlad Belg chwaraewyr o safon ym mhob rhan o’r cae. Mae ganddyn nhw opsiynau di-rif yng nghanol cae ac yn yr ymosod yn enwedig a gallai eu rheolwr Marc Wilmots ddewis dau dîm gwahanol fyddai’n cyrraedd yn reit bell yn y gystadleuaeth.

Er hynny, ers eu canlyniad siomedig yn erbyn Yr Eidal yn y gêm gyntaf, mae’r tîm wedi bod yn weddol sefydlog. Mae Nainggolan a Witsel yn bartneriaeth gadarn yng nghanol cae sy’n gosod sylfaen i Hazard a De Bruyne greu eu hud a lledrith.

Mae’r cawr Romelu Lukaku yn bresenoldeb bygythiol yn yr ymosod, ac mae opsiynau ar y fainc yn ymosodwr Lerpwl, Origi, a Batshuayi a sgoriodd gyda’i gyffyrddiad cyntaf yn erbyn Hwngari nos Sul.

Mae ganddyn nhw un o’r hanner dwsin o olwyr gorau yn y byd yn Thibaut Courtois, ac mae Alderweireld a Vertonghen ill dau wedi cael tymor ardderchog yn amddiffyn Spurs.

Digon i dîm hyfforddi Cymru bendroni yn ei gylch felly, ond heb amheuaeth yr allwedd fydd cadw Hazard, De Bruyne a Lukaku yn dawel gyda’r ddau gyntaf yn ardderchog yn erbyn Hwngari.

Y Tactegau

Mae Cymru’n gyfarwydd iawn â Gwlad Belg wedi iddyn nhw rannu’r un grŵp yn y ddwy ymgyrch ragbrofol ddiwethaf. Fe gollodd Cymru’r cyntaf o’r bedair gêm yn eu herbyn o 2-0 yng Nghaerdydd, cyn sicrhau dwy gêm gyfartal oddi-cartref (1-1 a 0-0), ac yna wrth gwrs y fuddugoliaeth gofiadwy honno o 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym Mehefin llynedd.

Er bod Coleman yn weddol ffyddlon i’w hoff chwaraewyr a system, mae wedi addasu tipyn ar ei dîm yn y gemau’n erbyn Gwlad Belg. Defnyddiodd ei system 5-3-1-1 mwyaf cyfarwydd yn y fuddugoliaeth llynedd, ond 4 yn y cefn a llenwi canol y cae oedd ei ddewis yn y gêm gyfartal 0-0, sef o bosib perfformiad amddiffynnol gorau Cymru mewn blynyddoedd diweddar.

Dwi ddim yn gweld Coleman yn newid ei system 5 yn y cefn ond bydd rhaid i’r amddiffyn fod yn ddisgybledig a chyfathrebu’n dda er mwyn delio â symudiad a chyfnewid Hazard a De Bruyne.

Gwrth ymosod ydy cryfder Cymru, a dyna fydd tacteg Coleman – amddiffyn yn dynn a defnyddio’r arfau gwrth-ymosodol yn y tîm i achosi problemau i amddiffyn Gwlad Belg, sydd ag ambell broblem ar hyn o bryd.

Wedi dweud hynny, mae’n bwysig nad ydy’r amddiffyn yn eistedd yn rhy ddwfn fel y gwnaethon nhw’n yr ail hanner yn erbyn Lleogr. Dwi’n credu mai y gofid ynglŷn â gadael lle i Vardy ai gyflymder oedd y rheswm am hynny, a fydd Lukaku ddim yn peri’r un math o fygythiad.

Y Cyfle

Os fydd Cymru’n chwarae’n agos at y ffordd y gwnaethon nhw’n erbyn Rwsia, mae cyfle gwirioneddol. Fe gododd bawb eu gêm y noson honno, ac roedd y tactegau’n berffaith gan Chris Coleman.

Er tegwch i Rwsia, roedden nhw’n ceisio chwarae’n ymosodol gyda’r cefnwyr yn enwedig yn awyddus i ymosod. Yn anffodus iddyn nhw, roedd hynny’n chwarae’n syth i ddwylo Cymru gan adael gofod i Bale a Ramsey greu difrod.

Bydd hyder Gwlad Belg yn uchel, a byddan nhw’n awyddus i dalu’r pwyth un ôl i Gymru am y golled llynedd felly disgwyliwch iddyn nhw fynd amdani o’r funud gyntaf. Os all Cymru ail-adeiladu’r wal amddiffynnol gadarn honno oedd yn sylfaen mor bwysig i’w hymgyrch ragbrofol yna mae cyfle i’n chwaraewyr ymosodol eu brifo nhw.

Mae gan Wlad Belg broblemau sylweddol yng nghanol eu hamddiffyn. Mae eu capten dylanwadol, Vincent Kompany, wedi colli Ewro 2016 yn gyfan gwbl oherwydd anaf. Fe welodd ei eilydd, Thomas Vermaelen, ail gerdyn melyn o’r bencampwriaeth yn erbyn Hwngari sy’n golygu ei fod yntau allan o’r gêm yn erbyn Cymru hefyd.

Mae’n debyg y bydd Jan Vertonghen yn symud i mewn o’r chwith i ganol yr amddiffyn at ei gyfaill yn Spurs, Toby Alderweireld. Mae hynny’n gadael bwlch yn safle’r cefnwr chwith –Jordan Lukaku ydy’r unig gefnwr chwith naturiol i lenwi’r bwlch yma, ond gyda dim ond 4 cap mae’n ddi-brofiad. Dyma ardal bosib i Gymru ei thargedu.

Roedd y sgôr terfynol swmpus yn erbyn Hwngari yn gamarweiniol, ac fe achosodd y gwrthwynebwyr broblemau ar adegau i amddiffyn Gwlad Belg. Roedd y bêl olaf, ac yr ychydig bach o safon ymosodol yn eisiau gan Hwngari ond mae gan Gymru sêr go iawn yn Bale a Ramsey ac os fyddan nhw’n tanio…

Y Personél

Mae Chris Coleman wedi bod yn barod iawn i newid ei ymosodwyr ym mhob gêm hyd yma gyda Jonny Williams, Hal Robson-Kanu a Sam Vokes i gyd yn dechrau gemau yn yr ymosod. Vokes sydd wedi dechrau’r ddwy gêm ddiwethaf, ond dwi’n reit siŵr y gwelwn ni newid eto nos Wener.

Fel arall, heblaw am Danny Ward yn dechrau’n lle’r anafedig Hennessey yn erbyn Slofacia, a Dave Edwards yng nghanol cae yn lle Ledley yn yr un gêm, mae Coleman wedi cadw’nn ffyddlon i’w hoff chwaraewyr.

Ond, ar ôl perfformiad eithaf swta yn erbyn Gogledd Iwerddon, fydden i’n synnu dim gweld cwpl o newidiadau i’r tîm sy’n dechrau’n erbyn Gwlad Belg.

Rhaid ystyried sut i ddelio â Hazard. Er mawr syndod, fe ddewisodd Coleman at Jazz Richards ar gyfer y gêm yng Nghaerdydd flwyddyn yn ôl, ac fe wnaeth yntau waith gwych yn marcio seren Chelsea. Tybed a fydd Coleman yn cael ei demptio i droi at Richards eto fel cefnwr de a symud Gunter i’r chwith ble mae Taylor wedi bod yn anghyson?

Roedd Ledley’n edrych yn flinedig yn erbyn Gogledd Iwerddon, ac efallai bod angen coesau fresh Dave Edwards neu King wrth ochr Allen yng nghanol cae gan ddefnyddio Ledley o’r fainc am yr 20 munud olaf.

A phwy fydd yn dechrau yn yr ymosod? Fe newidiodd Jonny Williams y gêm ar ôl dod o’r fainc ddydd Sadwrn a byddai ei redeg twyllodrus yn siŵr o achosi problem i amddiffynwyr mawr Gwlad Belg, gan orfodi troseddau a chiciau rhydd. Tydi chwarae fel ymosodwr ddim bob amser yn cael y gorau o dalent Gareth Bale, ond fe allai Coleman ofyn iddo wneud job i’w dîm unwaith eto nos Wener.

Cyrraedd Ewro 2016 oedd y fuddugoliaeth fawr i Gymru, ac roedd unrhyw ganlyniad ar ôl cyrraedd y bencampwriaeth yn fonws. Wedi dweud hynny, rydan ni bellach yn yr wyth olaf ac yn herio tîm y gwnaethon ni eu curo 12 mis yn ôl…mae gennym hawl i freuddwydio.