Geraint Thomas
Gyda dau o Gymru wedi cael lle yn nhîm Sky y Tour de France, bydd modd gweld y cyfan yn Gymraeg eleni eto, wrth i S4C ddilyn y gystadleuaeth.

Bydd Geraint Thomas a Luke Rowe, y ddau o Gaerdydd, yn y tîm i helpu’r pencampwr Chris Froome ennill y gystadleuaeth am y trydydd tro.

Sylwebydd rhaglen Seiclo S4C, Wyn Gruffydd, fydd yn dilyn y ddau Gymro, sydd hefyd yn cofio’r ddau yn aelodau o’r clwb Maindy Flyers fel plant.

“Roedd hi’n amlwg o oedran ifanc bod Geraint Thomas yn gystadleuol tu hwnt,” meddai.

“Wrth edrych ar ei faint e ar y pryd, roeddwn i’n meddwl taw’r beic oedd falle’n gyfrifol am ennill rasys, nid y bachan ar y beic!

“Mae’n rhyfeddol gweld e ar y llwyfan rhyngwladol ac mae’r ffaith bod e’n gyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Eglwys Newydd, yr un ysgol â Sam Warburton a Gareth Bale, yn gwneud e hyd yn oed yn fwy diddorol.”

Llwyddiant y Cymry

Mae Wyn Gruffydd yn dweud iddo gofio gweld y cyn pencampwr Olympaidd Nicole Cooke hefyd yn rasio dros y clwb o Gwmbrân, yn ogystal â’r beicwyr sy’n gobeithio cael lle yng Ngemau Olympaidd Rio eleni – Elinor Barker ac Owain Doull.

“Dwi’n cofio gweld Nicole Cooke yn rasio yn erbyn bechgyn yr oedran yna, oherwydd doedd dim rasys merched ar y pryd. Yn sicr mae gan seiclo Cymru lawer i ddiolch i’r Maindy Flyers am y llwyddiant diweddar,” meddai.

Cyflwynwyr Tour de France

Yn arwain y tîm cyflwyno dros S4C yn y Tour De France fydd Rhodri Gomer, a bydd Llinos Lee – y ddau yn gyflwynwyr Heno – yn cyflwyno o’r peleton.

Bydd y brodyr ap Gwynedd, Rheinallt a Peredur, sy’n gerddorion adnabyddus, yn cyd-sylwebu eto, yng nghwmni Wyn Gruffydd, John Hardy a Gareth Rhys Owen ar y ras 3,519km o hyd.

A bydd y beiciwr o dîm Madison Genesis, Gruff Lewis yn ymuno â’r tîm ar wahanol gymalau i roi ei sylwebaeth.

Mae’r Tour de France yn dechrau dydd Sadwrn yma, 2 Gorffennaf.