Yws Gwynedd Llun: Twitter
Mae Sesiwn Fawr Dolgellau bellach wedi cyhoeddi y bydd Yws Gwynedd, Mynediad am Ddim, Cowbois Rhos Botwnnog, Ail Symudiad a Brigyn yn perfformio yn yr ŵyl ganol fis nesaf.

Yn ymuno â nhw mae bandiau o bob cwr o’r byd gan gynnwys Ghazalaw, sef prosiect ar y cyd rhwng Gwyneth Glyn a’r canwr o India, Tauseef Akhtar.

Fe fydd hefyd perfformiadau gan The Elephant Sessions o’r Alban, The Changing Room o Gernyw a’r grŵp gwerin The Sidh o’r Eidal.

Bydd Magi Tudur, Y Cledrau a myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor hefyd yn cynnal setiau acwstig.

“Rydan ni wedi denu bandiau o bob cwr o’r byd, heb sôn am enwau mawr o Gymru,” meddai Dafydd Hughes, Swyddog Marchnata’r ŵyl.

Digwyddiadau eraill

Ychwanegodd Dafydd Hughes fod un enw arall i’w ddatgelu o ran perfformwyr yn nes at yr amser, “ac mae’n sicr o blesio cynulleidfa.”

Ymhlith y digwyddiadau eraill, fe fydd taith lenyddol gan Bethan Gwanas, sgwrs gan Arwel Rocet am yr arbenigwr canu gwerin, Merêd, gweithdy comedi i blant gan Daniel Glyn a sesiwn bobi gan Elliw Gwawr

Sesiwn Fawr Dolgellau 15-17 Gorffennaf.