Mae Iolo Cheung wedi bod yn crensian y ffigyrau'r wythnos yma
Iolo Cheung sydd yn cymryd cip ar y 30 chwaraewr sy’n cystadlu am le ar yr awyren i Ffrainc…
Fe fydd rheolwr Cymru Chris Coleman yn cael ei gyfle olaf yr wythnos nesaf i fwrw golwg dros ei chwaraewyr cyn dewis y rhai lwcus fydd yn teithio i Ewro 2016 ym mis Mehefin.
Bydd y garfan estynedig o 29 yn mynd i Bortiwgal am wythnos ar gyfer gwersyll ymarfer, a phan fyddan nhw’n dychwelyd i Gymru bydd Coleman yn enwi’r 23 terfynol fydd yn mynd i Ffrainc.
Mae’r rheolwr eisoes wedi awgrymu ei fod mwy neu lai’n gwybod pwy fydd o’n ei ddewis, ond parhau mae’r dyfalu ymysg y sylwebwyr a’r cefnogwyr.
Yn y cyfamser, mae golwg360 wedi penderfynu gwisg ei het ystadegol er mwyn ceisio dadansoddi’r ffigyrau allweddol am y chwaraewyr.
Pwy sydd wedi bod yn perfformio orau eleni? Pa chwaraewyr sydd wedi siomi? O ble ddaw’r goliau? Pwy sydd wedi cael tymor hir llawn gemau, a pha rai sydd yn ffres cyn y twrnament?
Bale ar y blaen
Wrth i ni edrych ar berfformiadau’r chwaraewyr dros eu clybiau eleni, dydi hi ddim yn syndod gweld pwy sydd yn dod i’r brig – seren ddiamheuol y tîm, Gareth Bale.
Fo sy’n arwain y ffordd yn siartiau Squawka a WhoScored o ran y pwyntiau a’r marciau y mae o wedi’i gael ar gyfer ei gemau dros Real Madrid eleni – yn wir, mae ben ag ysgwyddau’n uwch na’r lleill.
(Os cofiwch chi, fe gyhoeddon ni flog tebyg hanner ffordd drwy’r tymor yn edrych ar sut roedd y chwaraewyr yn perfformio hyd hynny).
Fel y gwelwch chi, mae system bwyntiau Squawka yn awgrymu bod Ashley Williams, Aaron Ramsey a James Collins hefyd wedi cael tymhorau da yn Uwch Gynghrair Lloegr, tra bod David Cotterill, Emyr Huws, David Vaughan, Dave Edwards a Sam Vokes wedi dal y llygad yn y Bencampwriaeth.
Ar y llaw arall tydi Neil Taylor, James Chester a Wayne Hennessey ddim i’w gweld wedi gwneud cystal (dim ond dwy gêm chwaraeodd Danny Ward yn yr Uwch Gynghrair) ac mae’r un peth yn wir am Adam Matthews ac Adam Henley yn y Bencampwriaeth.
Mae Squawka yn rhoi sgôr 'amddiffynnol', 'ymosodol' a 'chadw meddiant' i chwaraewr ym mhob gêm maen nhw'n ei chwarae, ac mae modd i'r sgôr hwnnw fod yn bositif neu'n negyddol - mae'r graff yn dangos cyfartaledd sgôr chwaraewr yn y gemau a chwaraeodd
Does dim gwahaniaethau mawr yn y ffordd mae WhoScored wedi rhestru chwaraewyr Cymru chwaith (dim ond eu bod nhw’n defnyddio system ‘marc allan o 10’ yn hytrach na phwyntiau fel Squawka).
Mae naw chwaraewr yn ymddangos yn y deg uchaf ar y ddwy restr, ond mae ‘chydig mwy o amrywiaeth pan mae’n dod at y gwaelodion.
Simon Church, Jonny Williams, Wes Burns, Joe Ledley a Wayne Hennessey sydd yn sgorio isaf yn ôl WhoScored (a’r golwr Hennessey ydi’r unig chwaraewr ym mhump isaf y ddwy restr).
Mae WhoSocred yn defnyddio system sgorio mwy traddodiadol gyda 'marc allan o 10' am berfformiadau chwaraewyr yn seiliedig ar sawl ffactor fel goliau, canran pasio llwyddiannus a nifer y taclau - eto, mae'r graff uchod yn dangos cyfartaledd bob chwaraewr ar draws y tymor
Wrth gwrs, rhaid cofio bod y marciau hyn yn seiliedig ar berfformiadau’r chwaraewyr yn eu cynghrair nhw (ac yn Ewrop) yn unig, felly mae’r chwaraewyr sydd yn las ar y graffiau wedi bod yn chwarae ar lefel uwch na’r rheiny mewn gwyrdd.
Dydi Owain Fôn Williams, George Williams a Tom Bradshaw ddim yn ymddangos yn y graffiau chwaith am nad oedd y gwefannau ystadegol yn cynnwys ffigyrau ar gyfer Uwch Gynghrair yr Alban a Chynghrair Un.
Tybed i ba raddau y bydd Chris Coleman yn ystyried perfformiadau’r chwaraewyr ar lefel clwb wrth ystyried pwy fydd yn ei garfan derfynol?
Ac a ydi’r ystadegau yn awgrymu pwy allai gamu i mewn i rôl ganol cae Joe Ledley os ydi anaf y brwydrwr barfog yn ddigon i’w gadw allan o Ewro 2016?
Gôl, gôl, gôl
Beth am yr ystadegyn pwysicaf oll – nifer y goliau a sgoriwyd? Dim syndod o weld pwy sydd ar y blaen unwaith eto; Gareth Bale, gydag 21 gôl y tymor hwn.
Yn ail mae Tom Bradshaw gydag ugain i Walsall, tra bod Sam Vokes (16) a Simon Church (10) hefyd wedi cyrraedd ffigyrau dwbl eleni.
Bale sydd hefyd wedi creu’r nifer fwyaf o goliau (14), tra bod Hal Robson-Kanu a David Cotterill wedi creu saith yr un, a Vokes ac Aaron Ramsey wedi cyfrannu at bump yr un.
Dros y tymor cyfan, i’w glwb a’i wlad, mae Bale wedi sgorio neu greu gôl unwaith bob 75 munud, cyfradd wych ar unrhyw lefel.
Yn ail mae Simon Church, sydd wedi sgorio neu greu gôl bob 159 munud y mae wedi bod ar y cae, tra bod Tom Bradshaw, Wes Burns, Sam Vokes, David Cotterill a Hal Robson-Kanu hefyd yn uchel ar y rhestr (yn rhannol gan mai ymosodwyr ydyn nhw).
Diddorol ydi nodi bod Joe Allen fel petai wedi bod yn fwy cynhyrchiol yn ymosodol nag Aaron Ramsey’r tymor yma, a hefyd bod cyfradd ‘sgorio a chreu’ Tom Lawrence (unwaith bob 435 munud) tipyn yn waeth na’i gyd-ymosodwyr.
Blinder?
Un peth arall sy’n aml yn cael ei grybwyll cyn pencampwriaethau pêl-droed rhyngwladol ydi’r tymor domestig hir sydd newydd ddod i ben – ydi’r chwaraewyr yn cyrraedd y gystadleuaeth wedi blino?
Mae llawer o’n chwaraewyr ni’n chwarae yn y Bencampwriaeth, sydd yn gynghrair o 46 gêm, tra bod sawl un o’r lleill yn cyfuno gemau Uwch Gynghrair â chystadlaethau Ewropeaidd neu gwpanau domestig.
O edrych ar y graff isod, mae’n amlwg y gallai Chris Gunter wneud â saib fach cyn yr Ewros – mae’r boi ‘di chwarae 59 gêm eisoes y tymor yma ac fe fydd ‘na ymddangosiad arall yn debygol o ddod yn y gêm gyfeillgar yn Sweden mewn ychydig dros bythefnos, sydd yn dod i gyfanswm o 5,134 munud ar y cae.
Fre dreuliodd Chris Gunter bron i bum gwaith y nifer o funudau ar y cae y tymor yma ac y gwnaeth Adam Matthews
Dydi hi ddim yn syndod gweld mai golwyr – Hennessey ac Owain Fôn Williams – ydi’r nesaf ar y rhestr, ac mae’n ymddangos bod Ashley Williams a Neil Taylor hefyd wedi haeddu saib gan Abertawe dros yr wythnosau diwethaf ar ôl tymor hir.
Ar ben arall y graff mae anafiadau ac anawsterau wrth gael lle yn y tîm wedi cyfyngu nifer y munudau y mae George Williams, Jonny Williams ac Adam Matthews wedi treulio ar y cae.
Diddorol hefyd ydi nodi bod sawl un o’n chwaraewyr Uwch Gynghrair ni, gan gynnwys Andy King a Joe Ledley, hefyd heb chwarae cymaint eleni.
Bydd hynny wrth gwrs yn golygu’u bod nhw’n fwy tebygol o fod yn ffres ar gyfer Ffrainc (hynny ydi, os nad ydyn nhw wedi anafu fel y mae Ledley ar hyn o bryd).
Wedi dweud hynny, fe fynnodd Gunter ei hun mewn cyfweliad diweddar â Golwg ei fod wedi arfer chwarae hanner cant o gemau mewn tymor bellach, ac mai blinder fyddai’n peth olaf ar ei feddwl allan yn yr Ewros.
Ac fe fydd y garfan a’r cefnogwyr yn bendant yn fwy na bodlon os oes ganddyn nhw fis arall o bêl-droed o’u blaenau nhw’r haf yma!