Disgwyl i Paul Trollope gael ei enwi'n rheolwr ddydd Mercher
Paul Trollope yw rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Caerdydd.
Cafodd y newyddion ei gadarnhau mewn cynhadledd i’r wasg.
Mae Trollope, 43, hefyd yn aelod o dîm hyfforddi rheolwr Cymru, Chris Coleman a does dim awgrym eto y bydd yn gadael y swydd honno cyn Pencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc fis nesaf.
Cafodd Trollope ei benodi’n aelod o dîm hyfforddi Slade ym mis Chwefror 2015 ac fe fydd yn derbyn swydd y rheolwr wrth i Slade symud i swydd newydd fel Pennaeth Pêl-droed, a fydd yn cynnwys elfen o chwilio am chwaraewyr newydd.
Cafodd Slade wybod ar ddiwedd y tymor na fyddai’n parhau’n rheolwr y tymor nesaf, a does dim disgwyl i Trollope fod yn atebol i’w ragflaenydd yn rhinwedd ei swydd newydd.