Pwy yw'r 23 chwaraewr mae Iolo Cheung yn credu y bydd Chris Coleman yn eu dewis?
Gohebydd golwg360 Iolo Cheung sydd yn ceisio dyfalu pwy fydd y 23 lwcus…

Gyda 100 diwrnod i fynd nes dechrau Ewro 2016, mae’r cyffro yn adeiladu a chyfleoedd yn prinhau i chwaraewyr wneud argraff – nid fy ngeiriau i, ond rhai is-reolwr Cymru Osian Roberts.

Pwy sydd ar y blaen felly yn y ras i sicrhau eu lle yn y garfan o 23 fydd yn mynd i Ffrainc, a phwy sydd yn wynebu haf o wylio Cymru adref ar y soffa?

Mae sawl un o’r garfan yn saff o fod ar yr awyren oni bai am anafiadau, wrth gwrs, gan gynnwys y selogion Gareth Bale, Aaron Ramsey, Ashley Williams, Wayne Hennessey a Joe Allen.

Ond dyma sut dw i’n ei gweld hi o ran gweddill y garfan – ac yn anffodus, mae ‘na ambell un fyswn i’n hoffi eu gweld yn mynd yn debygol o gael eu gadael ar ôl.

Rhan fwyaf yn dewis eu hunain

Mae’r tri golwr sydd wedi bod yn y garfan drwy gydol yr ymgyrch ragbrofol yn mynd i gael eu dewis i fynd i Ffrainc hefyd, does dim llawer o amheuaeth am hynny.

O ran yr amddiffyn, mae o hefyd yn tueddu i ddewis ei hun gan fod y rhan fwyaf wedi chwarae’n rheolaidd yn ystod yr ymgyrch a/neu yn chwaraewyr Uwch Gynghrair.

Yr unig fan trafod dw i’n ei weld ydi rhwng Paul Dummett ac Adam Henley, gyda’r dewis o fynd rhwng amddiffynnwr chwith sydd hefyd yn gallu chwarae yn y canol, neu rhywun i gryfhau ochr dde’r amddiffyn.

Mae Ramsey, Allen a Joe Ledley eisoes yn dewis eu hunain yng nghanol cae, a fydd hi ddim yn syndod o gwbl gweld Andy King yn ymuno â nhw chwaith.


Fe fydd gan Osian Roberts a Chris Coleman ambell benderfyniad anodd i'w wneud (llun: CBDC)
Ond o ran y chwaraewyr wrth gefn, dw i’n ofni mai dim ond lle i ddau o David Vaughan, Dave Edwards ac Emyr Huws fydd yn y garfan.

Mi fuasai hynny’n gadael lle i chwech arall yn yr ymosod ac mae Bale, Hal Robson-Kanu a Sam Vokes yn dri o’r rheiny.

Dim ond tri lle arall felly i’w rannu rhwng y gweddill, gan gynnwys Jonny Williams, Simon Church, Tom Lawrence, David Cotterill, George Williams a Tom Bradshaw.

Dewis y 23

Petai’n rhaid i mi ddyfalu felly pwy mae Coleman yn debygol o’i ddewis, ac o gofio natur geidwadol rheolwr Cymru ar adegau a’r tueddiad i aros yn ffyddlon i rai chwaraewyr, dyma’r 23 fydden i’n disgwyl eu gweld:

Gôl: Wayne Hennessey, Owain Fôn Williams, Danny Ward

Amddiffyn: Jazz Richards, Chris Gunter, James Collins, Ashley Williams, James Chester, Ben Davies, Neil Taylor, Paul Dummett

Canol cae: Joe Allen, Joe Ledley, Aaron Ramsey, Andy King, David Vaughan, Dave Edwards

Ymosod: Gareth Bale, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes, Jonny Williams, Simon Church, Tom Lawrence

Wrth gefn: Lewis Price, Adam Henley, Morgan Fox, Emyr Huws, David Cotterill, George Williams, Tom Bradshaw


Byddai Iolo Cheung yn hoffi gweld chwaraewyr fel Emyr Huws a George Williams, uchod, yn cael eu cynnwys (llun: CBDC)
Yn bersonol fe hoffwn i weld lle yn cael ei wneud i Emyr Huws a George Williams, dau chwaraewr dw i’n eu hedmygu’n fawr, ond fe fydd yn rhaid i Coleman wneud penderfyniadau anodd yn rhywle.

Wrth gwrs, petai yna anafiadau (ac fe fyddwn ni’n gweddïo na fydd!) mae’n eithaf posib y gallai sawl un o’r rhai dw i wedi enwi ar y rhestr ‘wrth gefn’ ganfod eu hunain ar yr awyren.

A dyw’r garfan uchod ddim hyd yn oed yn cynnwys ambell ‘wildcard’ ifanc allai Coleman dynnu allan o’r het – pobol fel Jordan Williams, Wes Burns, Gethin Jones, Tyler Roberts neu Regan Poole.

Mi fyddai nôl ym mis Mai i weld pa mor agos oeddwn i!