Roedd cryn gyffro ganol yr wythnos pan ddaeth adroddiadau bod Clwb Pêl-droed Abertawe am ddenu Conor Hourihane ar fenthyg o Aston Villa am weddill y tymor.

Mae cefnogwyr yr Elyrch wedi hen arfer â cholli chwaraewyr allweddol fyth ers iddyn nhw fod yn yr Uwch Gynghrair. Mae’r ymadrodd “ffenest drosglwyddo” bron iawn yn gyfystyr â rheg yn y parthau hyn ers tro. Fe fu colli chwaraewyr yn anochel bron bob tro, a gwacter y coffrau’n golygu mai prin fu’r adnoddau i ddenu chwaraewyr yn eu lle.

Roedd colli Gylfi Sigurdsson i Everton cyn dechrau tymor 2017-18 yn drobwynt ac yn benllanw. Yn ei gyfnod ar fenthyg gyda’r Elyrch yn 2012, sgoriodd e saith gôl mewn 18 gêm. Rhwng 2014 a 2017, fel chwaraewr parhaol, sgoriodd e 27 gôl mewn 106 o gemau. Daeth cyfran sylweddol o’r goliau hynny o ochr chwith y cae, ac o giciau rhydd a chiciau o’r smotyn.

Ac mae’n wir dweud nad yw’r Elyrch wedi sgorio o gic rydd uniongyrchol (heb fod chwaraewr arall wedi cyffwrdd y bêl) ers hynny, gyda phob ymgais arall yn gic rydd anuniongyrchol neu’n gôl gan amddiffynwyr i’w rhwyd eu hunain. Ond gyda’r llwyddiant ar y cae erbyn hyn, gallai Hourihane gynnig darn bach ola’r jig-so.

Ar Ddydd San Steffan 2018 y daeth gôl ddiwetha’ Hourihane yn Stadiwm Liberty, a honno’n beniad yn y cwrt cosbi. Bydd cefnogwyr Villa yn cofio goliau allweddol niferus y Gwyddel o Cork – 22 ohonyn nhw mewn 150 o gemau, gan greu 29 arall – ac mae cefnogwyr yr Elyrch wedi clywed digon amdanyn nhw dros y dyddiau diwethaf.

Ymateb Steve Cooper

Rhaid pwysleisio yma fod Steve Cooper wedi gwneud yn rhyfeddol ers cael ei benodi cyn y tymor diwetha’ – a chyfadde’ ’mod i’n un o’r rheiny oedd yn yngan “Steve pwy?” pan gafodd ei enw ei grybwyll.

“You can’t win anything with kids” meddai Alan Hansen rywdro – cyn i Man U ennill y dwbwl! Wel, mae’r Elyrch ifainc yn y safleoedd dyrchafiad awtomatig ar hyn o bryd gyda llai na hanner y tymor yn weddill. O gymharu adnoddau Man U â’r rhai sydd gan Steve Cooper, byddai dyrchafiad awtomatig yng nghyd-destun y tymhorau blaenorol yn siŵr o wneud i’r rheolwr o Gymro deimlo fel pe bai e wedi ennill y dwbwl!

Os yw’r cefnogwyr wedi cyffroi ynghylch Hourihane, wel dychmygwch gyffro’r rheolwr Steve Cooper wrth ddenu ‘hen ben’ i grombil y criw ifanc yn y Liberty – chwaraewr mae’n cyfadde’ iddyn nhw ei gwrso “110%”. Ond hefyd, ac yn bwysicach fyth efallai, cyffro Hourihane wrth gyrraedd Abertawe. Un peth yw clywed y bois ifainc yn canu ei glodydd (cofiwch i Cooper ennill Cwpan y Byd dan 17 gyda Lloegr), ond peth arall yw clywed chwaraewr profiadol yn ei ganmol i’r cymylau a dweud faint mae e wedi cyffroi o gael y cyfle i ddod i Abertawe ac i weithio gyda fe. Mae’n adrodd cyfrolau am y chwyldro ar waith yma.

Mae ymateb Steve Cooper hefyd yn adrodd cyfrolau.

“Ry’n ni’n falch iawn fod Conor yma,” meddai yn ei gynhadledd wythnosol. “Mae e’n chwaraewr gwych yn nhraddodiad y Bencampwriaeth.

“Dw i jyst yn canolbwyntio ar bêl-droed ac ry’n ni wedi dod â phêl-droediwr da iawn i mewn sy’n awchu i lwyddo.

“Roedd ganddo fe benderfyniadau i’w gwneud, un o ran gadael Villa, ond yn ail o ran ble i fynd.

“Roedd e’n glir iawn ynghylch beth roedd e eisiau ei wneud,” meddai ar ôl i Hourihane wneud cais i fynd allan ar fenthyg, gan wybod fod ei ddyddiau gydag Aston Villa ar ben wrth iddyn nhw wneud cystal yn yr Uwch Gynghrair.

Tra bod Hourihane fwy na thebyg yn sylweddoli’r angen i adael yn barhaol er mwyn cael y cyfle i chwarae ar y lefel uchaf eto – rhywbeth sy’n nesáu un cam ar y tro i’r Elyrch hefyd – dydy Cooper ddim eisiau edrych y tu hwnt i’r tymor hwn.

A dweud y gwir, dyw e ddim yn hoff o edrych ymhellach na’r gêm nesa’ – a honno’n dod yn y gwpan yn erbyn Nottingham Forest ddydd Sadwrn. Bydd cefnogwyr Villa yn cofio’i gic rydd isel o ryw ddeg llath y tu allan i’r cwrt cosbi yn eu herbyn nhw yn niwedd 2017. Ac yntau’n gapten ar Barnsley ar ddechrau’r flwyddyn honno, daeth chwip arall o gôl ganddo fe oddi ar ei droed chwith enwog o gryn bellter eto i gosbi Forest. A ddaw ei drydedd yn y bedwaredd rownd yn y Liberty, tybed?

“Does dim amheuaeth fod ganddo fe dechneg o safon uchel pan ddaw i sefyllfaoedd chwarae gosod,” meddai Cooper. “Dw i ddim yn credu ein bod ni wedi sgorio o gic rydd uniongyrchol er pan oedd Sigurdsson gyda ni. Weithiau yn y gemau hyn yn y Bencampwriaeth, maen nhw’n cael eu penderfynu gan chwarae gosod a gall hynny wneud gwahaniaeth ar adegau.”

Mae’r Elyrch yn ail yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, gyda saith pwynt rhyngddyn nhw a Middlesbrough, y tîm sydd islaw safleoedd y gemau ail gyfle. Uwch eu pennau, mae gan Norwich saith pwynt o fantais. Fydd y gêm yn erbyn Brentford ddim yn un hawdd nos Fawrth ond os bydd Hourihane wedi cael cyfle i brofi ei hun yn y gwpan – gyda’r wobr i’r tîm buddugol yn dod ar ffurf gêm yn erbyn Manchester City yn y rownd nesaf – yna mae’n bosib y gwelwn ni Hourihane yn chwarae rhan fwy blaenllaw bryd hynny.

Os bydd Hourihane yn profi ei hun, pwy a ŵyr, efallai y bydd ei bennod nesaf fel chwaraewr parhaol gyda’r Elyrch yn nhymor 2021-22. Mae Cooper yn gwrthod dweud a oes cymal yn y cytundeb dros dro i’r Elyrch gael ei brynu. Beth bynnag a ddaw, bydd cefnogwyr Villa yn dymuno’r gorau iddo fe, a chefnogwyr Abertawe, o’r diwedd, yn diolch am gael bygythiad o chwarae gosod o flaen y gôl unwaith eto.