Chris Coleman
Iolo Cheung sydd yn bwrw golwg ar ba dimau sydd yn debygol o gyrraedd Ewro 2016 yr wythnos hon – gan gynnwys Cymru, gobeithio
Mae cefnogwyr pêl-droed Cymru yn hen gyfarwydd bellach â beth sydd ei angen o’r ddwy gêm nesaf, ac wedi bod ers y chwib olaf yn erbyn Israel fis diwethaf – un pwynt arall.
Dyna’r oll sydd ei angen, o’r ddwy gêm nesaf yn erbyn Bosnia-Herzegovina ac Andorra, i sicrhau ein lle yn Ewro 2016 yn Ffrainc.
Er bod Bosnia’n lle heriol i deithio iddi dydyn nhw heb gael yr ymgyrch orau, ac mae Andorra yn un o gorachod y byd pêl-droed rhyngwladol, felly yn ôl pob tebyg, fe ddaw’r pwynt hwnnw.
Ond beth yw’r sefyllfa yng ngweddill y grwpiau, a phwy all Cymru fod yn wynebu yn y twrnament y flwyddyn nesaf?
Ambell sioc
Un o grwpiau mwyaf syfrdanol yr ymgyrch yw Grŵp A, ble mae’r Weriniaeth Tsiec a Gwlad yr Ia eisoes wedi sicrhau eu lle yn yr Ewros – a hynny ar draul Twrci a’r Iseldiroedd, fydd yn gorfod brwydro am y trydydd safle a lle yn y gemau ail gyfle.
Yng Ngrŵp B mae Cymru a Gwlad Belg bron o fewn cyrraedd yr Ewros, gyda’r frwydr mwy na thebyg nawr rhwng Israel (13 pwynt) a Bosnia (11 pwynt) am y trydydd safle.
Mae Sbaen a Slofacia yn agos at sicrhau eu lle yng Ngrŵp C, ond gan fod yr Wcrain mor agos iddyn nhw mae’n debygol y byddan nhw hefyd yn sicrhau eu lle yn Ffrainc fel y tîm gorau orffennodd yn drydydd.
Yr Almaen sydd yn arwain Grŵp D, gyda Gwlad Pwyl yn debygol o sicrhau’r ail safle ond y ddau dîm yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon, allai sleifio i’r ddau safle uchaf, yn eu gemau olaf. Trydydd yw’r gorau y gall yr Alban obeithio amdani.
Mae Lloegr eisoes wedi ennill Grŵp E, gyda’r Swistir yn hyderus o orffen yn ail a Slofenia yn debyg o gipio’r trydydd safle.
Yng Ngrŵp F mae Gogledd Iwerddon a Rwmania mewn safle cryf, ond fe allai Hwngari sy’n drydydd eu dal nhw o hyd, ac mae Ffindir sydd yn bedwerydd hefyd yn llygadu safle Hwngari.
Mae Awstria wedi ennill Grŵp G ac felly fe fydd y frwydr mwy na thebyg rhwng Rwsia a Sweden am yr ail a’r trydydd safle.
Yng Ngrŵp H fe allai fynd dair ffordd, gyda’r Eidal (18 pwynt), Norwy (16 pwynt) a Croatia (14 pwynt) i gyd â gobaith o orffen yn y ddau safle uchaf, ac mae’n frwydr tair ffordd yng Ngrŵp I hefyd rhwng Portiwgal (15 pwynt), Denmarc (12 pwynt) ac Albania (11 pwynt).
Beth wedyn?
Yn dilyn cwblhau’r grwpiau fe fydd wyth o’r timau sydd yn drydydd yn chwarae mewn gemau ail gyfle ym mis Tachwedd i benderfynu pwy yw’r pedwar tîm ychwanegol fydd yn cyrraedd Ffrainc.
Y gobaith yw na fydd Cymru ymhlith y rheiny, wrth gwrs, a hwythau eisoes wedi sicrhau eu lle fis yma.
Unwaith y bydd y 24 tîm wedi cael eu cadarnhau, fe fydd y grwpiau yn cael eu dewis mewn seremoni yn Ffrainc ar 12 Rhagfyr.
Fe fydd chwe grŵp o bedwar yn cystadlu yn y twrnament, gyda’r ddau uchaf o bob grŵp yn ogystal â phedwar o’r chwe thîm sydd yn gorffen yn drydydd yn cyrraedd rownd 16 olaf y gystadleuaeth.
Fodd bynnag, mae Cymru’n debygol iawn o fod ym Mhot Pedwar y detholion ar gyfer Ewro 2016, ac felly yn swyddogol beth bynnag yn dîm ‘gwanaf’ y grŵp, gan fod UEFA yn defnyddio system ddethol wahanol i FIFA, ble mae tîm Chris Coleman yn wythfed yn y byd ar hyn o bryd