James Hook
Mae James Hook wedi cyfaddef bod ganddo bwynt i’w brofi o hyd yng Nghwpan y Byd, pedair blynedd ers i Gymru golli yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth ddiwethaf allan yn Seland Newydd.
Yn 2011 fe ddaeth y freuddwyd i ben gyda cholled o 9-8 yn erbyn Ffrainc, gyda Sam Warburton yn cael cerdyn coch, a Hook yn cael ei eilyddio pum munud yn unig o ddechrau’r ail hanner.
Ers hynny mae’r olwr amryddawn sydd bellach yn chwarae i Gaerloyw wedi bod ar gyrion carfan Cymru, ond fe gafodd ei alw nôl yn ddiweddar yn dilyn anafiadau i sawl chwaraewr.
Ac wrth i Gymru baratoi i herio Awstralia dydd Sadwrn yn eu gêm grŵp olaf yng Nghwpan y Byd eleni, mae Hook yn cyfaddef bod ganddo “fusnes anorffenedig” yn y gystadleuaeth.
Cyfle arall
“Oes, mae rhywfaint o fusnes anorffenedig,” meddai Hook, a ddaeth ymlaen fel eilydd yn y gêm ddiwethaf yn erbyn Fiji.
“Roeddwn i’n gobeithio bod yn rhan o Gwpan y Byd a gwneud rhywbeth. Gobeithio caf i’r cyfle i wneud hynny a chwarae rhan bositif.
“Ambell waith dw i wedi meddwl fod e [rygbi rhyngwladol] wedi llithro i ffwrdd, ond pan dw i gyda Chaerloyw dw i’n gweithio’n galed rhag ofn bod cyfle’n codi.
“Rydyn ni wedi cael sawl anaf difrifol sydd wedi agor y drws i mi, ond nawr mod i yma dw i’n canolbwyntio ar fynd mas yna, mwynhau a rhoi fy ngorau.”
Brwydro am y brig
Fel chwaraewr sydd yn gyfforddus fel canolwr, cefnwr neu faswr mae Hook yn gwybod ei fod yn ddefnyddiol i unrhyw garfan.
Fe fydd e nawr yn gobeithio bod yn rhan o’r tîm sydd yn cael ei enwi dydd Iau i herio Awstralia ar y penwythnos, gyda’r ddau dîm eisoes drwyddo i’r wyth olaf ac yn brwydro nawr am y safle uchaf yn y grŵp.
Byddai ennill y grŵp yn golygu llwybr tipyn haws i Gymru, gan mai’r Alban fyddai eu gwrthwynebwyr tebygol yn rownd yr wyth olaf a thimau fel Ffrainc, Iwerddon neu’r Ariannin yn eu hwynebu yn y rownd gynderfynol.
Dod yn ail yn y grŵp, fodd bynnag, ac fe fydden nhw mwy na thebyg yn wynebu De Affrica yn y chwarteri a Seland Newydd yn y rownd gynderfynol.
Er bod gan Gymru record sâl yn erbyn Awstralia’n ddiweddar, a bod y Wallabies wedi edrych yn gryf iawn yn erbyn Lloegr yn eu gêm ddiwethaf, ond dyw hynny ddim wedi clecio hyder Hook.
“Fe siaradodd y bois bore yma am faint o dorcalon rydyn ni wedi cael yn erbyn Awstralia yn y gorffennol, felly mae’n rhaid i ni fynd mewn iddi yn benderfynol,” meddai Hook.
“Mae pawb yn gallu cael eu curo, dim ond eich bod chi’n cael pethau’n iawn ar y diwrnod.”