Wrecsam 2–2 Tranmere
Dwy gôl yr un oedd hi wrth i Wrecsam groesawu Tranmere dros y ffin i’r Cae Ras yn y Gynghrair Genedlaethol nos Fawrth, a hynny o flaen torf o bron i saith mil.
Er i’r Dreigiau sgorio’n gynnar fe darodd yr ymwelwyr yn ôl gan fynd ar y blaen yn gynnar wedi’r egwyl, ond cipiodd gôl hwyr Joe Quigley bwynt i’r Cymry.
Rhoddodd Robbie Evans Wrecsam ar y blaen mewn steil wedi ychydig dros chwarter awr o chwarae gydag ergyd isel gywir.
Unionodd Lois Maynard bethau cyn yr egwyl cyn i Andy Mangan o bawb roi Tranmere ar y blaen ar ddechrau’r ail hanner gyda gôl yn erbyn ei gyn glwb.
Daeth Quigley i’r cae toc wedi’r awr a chafodd gryn argraff gan unioni’r sgôr ac achub pwynt i’w dîm gyda llai na deg munud o’r gêm i fynd.
Pwynt i Wrecsam yn y diwedd felly ond nid yw hwnnw’n ddigon i’w hatal rhag llithro dri lle i’r nawfed safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.
.
Wrecsam
Tîm: Belford, Vidal, Smith, Moke (Nolan 67′), Newton, Fyfield, Evans, Carrington (Quigley 62′), York, Jennings, Vose (Jackson 63′)
Goliau: Evans 17’, Quigley 82’
Cerdyn Melyn: Vidal
.
Tranmere
Tîm: Davies, Sutton, Riley, Maynard, Hill, Hogan, Mekki, Harris, Dawson (Norwood 66′), Mangan (Jackson 83′), Margetts (Jennings 66′)
Goliau: Maynard 25’, Mangan 52’
Cerdyn Melyn: Hill
.
Torf: 6,706