Iolo Cheung
Roedd awyrgylch o siom o gwmpas Caerdydd nos Sul, ond cyrraedd yr Ewros sy’n bwysig yn y bôn yn ôl Iolo Cheung
Mae dilyn pêl-droed Cymru yn gwneud pethau od i chi. Nos Sul, gyda’r tîm ar frig y grŵp rhagbrofol a dim ond angen pwynt arall o’u dwy gêm olaf, roeddwn i’n teimlo’n siomedig.
Nid oherwydd ein safle ni yn y grŵp – o gymryd cam yn ôl ac ystyried ble roedd ein tîm ni dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, mae bod ar drothwy cyrraedd ein twrnament rhyngwladol cyntaf ers 1958 yn gamp aruthrol.
Rydyn ni’r cefnogwyr wedi cael ein sbwylio dros y flwyddyn ddiwethaf, gydag ymgyrch ble dyw Cymru dal heb golli gêm, dim ond wedi ildio dwy, a gyda goliau Bale wedi’n rhoi ni ar drothwy lle yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Oedd hi’n farus disgwyl tri phwynt arall gartref yn erbyn Israel dydd Sul fyddai wedi cadarnhau ein lle ni yn fathemategol? Efallai.
Ond mae un peth bron yn sicr. Er bod y siampên wedi gorfod mynd nôl i’r rhewgell am nawr, mae Cymru gam yn nes at gyrraedd twrnament y byddan nhw’n llawn haeddu bod ynddi.
Siom i Church ar y Sul
I fod yn deg, mi fuodd hi’n wythnos dda i dîm Chris Coleman – a’r cefnogwyr.
Roedd 3,500 ohonom ni allan yng Nghyprus ar gyfer y gêm nos Iau (a’r rhan fwyaf wedi bod yn y trefi glan môr am rai dyddiau cynt hefyd yn iro’r corn gwddf) i weld y tîm yn cipio buddugoliaeth bwysig tu hwnt.
Doedd hi ddim yn gêm dda – a dweud y gwir, roedd hi’n un sâl ar y naw. Doedd Cymru ddim yn agos at eu gorau, doedd y tywydd a’r cae ddim yn helpu, roedd Cyprus yn amddiffynnol, y dyfarnwr yn gythryblus o wael, a’r cefnogwyr yn llai swnllyd nag y byddech chi wedi’i ddisgwyl am gêm oedd yn dechrau am 10 o’r gloch y nos.
Ond dyna ni, y tri phwynt oedd yn bwysig, cipio hwnnw diolch i gôl arall gan Gareth Bale, ac yna heglu hi o ‘na – jyst fel y dechreuodd yr ymgyrch yn erbyn Andorra nôl ym mis Medi llynedd.
Simon Church yn sylwi ar faner y llumanwr (llun: Nick Potts/PA)
Nôl a ni i Gaerdydd, ac ambell un wedi dal gormod o liw haul, gan obeithio gweld buddugoliaeth arall yn erbyn Israel fyddai wedi sbarduno’r parti mawr.
Ddaeth hi ddim yn y diwedd, diolch yn rhannol i amddiffyn gwydn yr Israeliaid, anallu Cymru i gipio’r cyfleoedd ddaeth eu ffordd nhw, a rhagor o benderfyniadau amheus gan y dyfarnwr.
Bu bron i Gymru ei dwyn hi yn yr eiliadau olaf, ac roedd yr amrantiad hwnnw rhwng gwylio peniad Simon Church yn taro cefn y rhwyd a gweld baner y llumanwr yn codi i’r awyr yn orfoledd pur.
Nid jyst hynny, ond fe yna fe ddaeth Cyprus o fewn munudau i gael gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg, canlyniad fyddai hefyd wedi anfon Cymru i’r Ewros – dau gyfle i gyrraedd wedi mynd heibio mewn noson.
Un pwynt arall
Wrth gwrs, mae Cymru wedi aros 57 mlynedd i gyrraedd twrnament rhyngwladol, felly fel y dywedodd sawl cefnogwr ar ddiwedd y gêm, siawns na allwn ni aros mis arall.
Fe allai’r foment fawr ddod yn erbyn Bosnia ar 10 Hydref, gyda Chymru dim ond angen gêm gyfartal – a hynny ar Super Saturday, yr un diwrnod ag y mae’r bois rygbi’n herio Awstralia yng Nghwpan y Byd.
Colli honno, ac fe fydd dal cyfle arall i gipio’r pwynt hollbwysig gartref yn erbyn Andorra tridiau yn ddiweddarach. Cofiwch mai dyna’r tîm sydd dim ond wedi ennill un gêm gystadleuol yn eu hanes.
Cefnogwyr Cymru yn yr eisteddle - ddim ar y cae (llun: Adam Davy/PA)
Hyd yn oed os yw Cymru’n colli’r ddwy – rhywsut – byddai dal rhaid i Israel drechu Gwlad Belg a Chyprus yn eu gemau nhw sy’n weddill.
Fel mae cân diweddar y cefnogwyr yn awgrymu, felly, mae’n bryd mynd i chwilio am y pasbort a’r geiriadur Ffrangeg yna.
Yr unig bryder sydd gen i ydi’r dorf. Fe gawson nhw eu rhybuddio gan y cyfryngau a gan gyd-gefnogwyr i beidio â rhedeg ar y cae i ddathlu petai Cymru’n sicrhau eu lle yn yr Ewros.
Mae cefnogwyr Cymru eisoes wedi gwneud hynny unwaith yn yr ymgyrch, yn y gêm agoriadol yn erbyn Andorra, ac mae UEFA wedi rhybuddio y bydd unrhyw droseddau tebyg pellach yn arwain at gosb lymach na dirwy – o bosib colli tri phwynt.
Roedd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru rybuddion ar y sgrin fawr yn y stadiwm yng ngêm Israel – ond petai gôl Church wedi cyfrif, dw i ddim yn siŵr a oedd digon o stiwardiaid o gwmpas i sicrhau na fyddai ambell dwpsyn wedi sleifio ar y cae, gyda rhagor yn eu dilyn.
Ar ôl blynyddoedd o ddioddefaint i gefnogwyr sydd wedi gwylio’r tîm cenedlaethol yn boddi wrth ymyl y lan sawl tro, eironi o’r mwyaf fyddai petai’r tîm yn cyflawni o’r diwedd dim ond i gefnogwyr golli pwyntiau drostyn nhw.
Siawns na fydd hynny’n digwydd. Efallai mai jyst fi sy’n bod yn paranoid.
Mae tîm Cymru bellach mor agos at greu hanes. Dyma’n amser ni. Ynde?