Iolo Cheung fu’n cymharu timau Cymru’r gorffennol a’r presennol …

Ar gyfer rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg mi fues i’n sgwrsio efo cyn-reolwr Aberystwyth Tomi Morgan ynghylch pêl-droedwyr ifanc o Gymru sy’n chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Trafod oedden ni’r cytundeb teledu newydd sy’ gan y Prem yn Lloegr, gan holi a fyddai’r £5biliwn fydd ar gael i’r clybiau yn golygu eu bod nhw’n gwario ar dalent o dramor yn hytrach na meithrin talent o Ynysoedd Prydain … ac yn benodol, talent Cymreig.

Roedd gan Tomi Morgan ddigon o sylwadau craff ar y mater, gan gyfeirio at sgyrsiau mae o wedi’u cael gyda hyfforddwyr ieuenctid y clybiau mawr.

Poeni mae o fod Cymry ifanc dawnus (sydd wrth gwrs bron i gyd yn mynd drwy academïau clybiau yn system Lloegr) ddim yn cael digon o gyfleoedd i chwarae’n gystadleuol, a bod yr arian hefyd yn effeithio ar eu hawch.

Mae Tom Lawrence ac Emyr Huws yn esiamplau ddiweddar o hyn – y ddau’n serennu yn system ieuenctid clybiau mawr Manceinion ond yna’n cael eu gwerthu i glybiau llai cyn hyd yn oed cael cyfle iawn yn y tîm cyntaf Man City a Man U.

Llai o gyfleoedd

Mi gododd hyn bwnc difyr sydd yn siŵr o fod wedi cael ei drafod droeon ymysg cefnogwyr tîm cenedlaethol Cymru – ydi safon chwaraewyr Cymru yn is rŵan nag yr oedd ychydig ddegawdau yn ôl?

Ers i Uwch Gynghrair Lloegr gael ei lansio yn 1992 mae’r nifer o chwaraewyr o Brydain sydd yn chwarae i’r clybiau wedi bod yn raddol ddisgyn.

Mae’n debyg bod cyfleoedd i’r Cymry ar y cae hefyd yn llai, gydag astudiaeth BBC Sport llynedd yn awgrymu mai dim ond 2.45% o Gymry oedd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair o ran treulio amser ar y cae.

Bellach mae chwaraewyr o Loegr, yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon, Ffrainc, Sbaen, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a’r Ariannin yn cael mwy o amser chwarae na’r Cymry.

A phan mae pobl yn edrych nôl ar gyfnodau fel dechrau’r 1990au pan oedd gan Gymru sêr o’r Uwch Gynghrair fel Mark Hughes, Ian Rush, Gary Speed a Ryan Giggs, mae’n hawdd gweld pam bod pobl eisiau mynd nôl i’r oes hwnnw.

Ond efallai bod yr ystadegau’n adrodd stori wahanol …

Cymharu â’r gorffennol

Felly sut mae tîm Cymru heddiw yn cymharu â sêr y gorffennol? Oes llai o’n chwaraewyr ni bellach yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair?

Dw i wedi penderfynu cymharu tîm heddiw gyda dau o dimau mwyaf ‘llwyddiannus’ Cymru yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, sef tîm Terry Yorath wnaeth bron gyrraedd USA ’94, a thîm Mark Hughes ddaeth o fewn trwch blewyn i gyrraedd Ewro 2004.

Isod mae’r ffigyrau ar gyfer faint o’r Cymry oedd yn chwarae ar y lefel uchaf yn ystod eu cyfnod gyda’r tîm rhyngwladol (i fod yn deg, mae Gareth Bale wedi cael ei gynnwys fel chwaraewr ‘Uwch Gynghrair’ gan fod La Liga Sbaen yn gymharol o ran safon, ond dydi Uwch Gynghrair yr Alban ddim).

Dydi’r ffigyrau ddim chwaith yn cynnwys pobl gafodd eu galw i’r garfan ond wnaeth ddim chwarae.


1992 i 1994

Gan ddechrau efo tîm Yorath, mi wnes i gasglu enwau pob chwaraewr gynrychiolodd Cymru yn ystod tymhorau 1992/93 a 1993/94 (sef dau dymor cyntaf yr Uwch Gynghrair).

Dyma oedd y tîm cryfaf ar y pryd: Southall, Phillips, Young, Symons, Bodin, Horne, Speed, Hughes, Saunders, Rush, Giggs.

Dros y ddwy flynedd yna fe enillodd 28 o chwaraewyr gapiau dros Gymru, gydag 18 ohonyn nhw’n chwarae i glybiau yn yr Uwch Gynghrair yn ystod y cyfnod hwnnw, a 10 ddim.

Roedd hynny’n golygu bod modd dweud bod 64% o chwaraewyr rhyngwladol Cymru ar y pryd yn chwaraewyr Uwch Gynghrair (ond tydi hynny ddim o reidrwydd yn golygu chwarae’n gyson).


2002 i 2004

At dîm Mark Hughes, ac er mwyn cadw’r gymhariaeth yn gyson dw i wedi edrych ar dymhorau 2002/03 a 2003/04, sef yr un cyfnod ag ymgyrch ragbrofol Ewro 2004.

Dyma oedd y tîm cryfaf mwy neu lai ar y pryd: Jones, Delaney, Melville, Gabbidon, Barnard, Davies, Savage, Speed, Giggs, Hartson, Bellamy.

Dros y cyfnod hwnnw fe enillodd 40 o chwaraewyr gapiau dros Gymru, gydag 18 ohonyn nhw’n chwaraewyr Uwch Gynghrair, a 22 ddim.

Roedd y canran wedi disgyn erbyn hyn felly i 45%, er bod y nifer o chwaraewyr o’r Uwch Gynghrair yr un peth, a hynny am fod llawer mwy o chwaraewyr wedi gwisgo’r crys yn ystod y cyfnod hwnnw.


2013 i 2015

Rydan ni’n gorffen efo tîm presennol Chris Coleman felly, ac fel dw i’n ei gweld hi dyma ydi ei ddewis cyntaf ar hyn o bryd: Hennessey, Gunter, A.Williams, Chester, Taylor, Ledley, Ramsey, Allen, Bale, J.Williams, Vokes.

Ar gyfer y cyfnod yma dw i wedi edrych ar dymhorau 2013/14 a 2014/15 – er bod y tymor yma heb ei gwblhau eto, dim ond dwy gêm gystadleuol sydd gan Gymru cyn iddi orffen felly mi allwn ni ddisgwyl mai’r un enwau fydd yn y tîm eto.

Dros y cyfnod yma cafodd 37 o chwaraewyr gapiau dros Gymru, gyda 21 ohonyn nhw’n chwaraewyr Uwch Gynghrair, ac 16 ddim.

Mae hyn yn golygu bod 57% o’r chwaraewyr sydd wedi chwarae dros Gymru dros y ddwy flynedd diwethaf yn chwaraewyr Uwch Gynghrair – is na 1992-94 ond uwch na 2002-04.

Dyma’r nifer uchaf o’r tri cyfnod rydan ni wedi cymharu hefyd, er bod rhaid cydnabod wrth gwrs ein bod ni bellach mewn cyfnod ble rydan ni’n gweld mwy o eilyddio a mwy o chwaraewyr llai adnabyddus yn ennill capiau mewn gemau cyfeillgar.

Camargraff?

Ydan ni wedi bod yn edrych nôl ar y gorffennol yn or-ramantus felly? Mae’r ffigyrau yn sicr yn awgrymu bod digonedd o chwaraewyr Cymru yn chwarae ar y lefel uchaf o hyd, yn sicr yn fwy na 2004 ac yn fwy neu’n llai na 1994 yn dibynnu ar sut ydych chi’n edrych ar bethau.

Wrth gwrs mae faint o amser maen nhw’n ei gael ar y cae yn fater arall, gan fod y rhestr o chwaraewyr Cymru rhwng 2013 a 2015 oedd hefyd yn chwaraewyr Uwch Gynghrair yn cynnwys pobl fel Wayne Hennessey a Jonny Williams (ond ddim Emyr Huws a Harry Wilson).

Fe gawn ni weld mewn deng mlynedd a fydd chwaraewyr cenhedlaeth Wilson, George Williams, Jordan Williams a Tyler Roberts yn serennu i glybiau mawr yr Uwch Gynghrair.

Erbyn hynny mae’n ddigon posib y byddwn ni’n edrych nôl ar chwaraewyr fel Gareth Bale, Aaron Ramsey, Ashley Williams a Joe Allen a’u gweld nhw fel sêr yn yr un ffordd ac y mae Rush, Hughes, Speed a Giggs yn cael eu gweld heddiw.

Ac wrth gwrs, os ydi tîm heddiw o sêr Cymru yn cyrraedd Ewro 2016, fydd neb yn cwyno am faint ohonyn nhw sydd yn yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd!