Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cyhoeddi eu ffigyrau diweddaraf sydd yn dangos bod y clwb wedi gwneud colled o £12m yn y flwyddyn yn arwain at Mai 2014.
Cafodd y ffigwr hwnnw ei gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau ar gyfer yr unig dymor a dreuliodd y clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr, gyda’r tîm bellach nôl yn y Bencampwriaeth.
Bellach mae dyled y clwb yn £174miliwn, y rhan fwyaf o hynny yn fenthyciadau gan berchennog y clwb Vincent Tan.
Dyled i’r perchennog
Dangosodd y ffigyrau fod Caerdydd wedi cael incwm o £79.9m yn eu tymor yn yr Uwch Gynghrair, gyda £63.9m o hynny’n arian teledu.
Ond fe wariodd y clwb £45m ar brynu chwaraewyr, yn ogystal â £46.7m ar gyflogau chwaraewyr dros y flwyddyn honno.
Cynyddodd benthyciad Vincent Tan i’r clwb i £130m ac mae’n golygu bod y dyledion yn parhau i fod yn llawer mwy na gwerth y stadiwm, eu chwaraewyr ac asedau eraill y clwb.
‘Angen gwario’n gall’
Cafodd Malky Mackay y sac o fod yn rheolwr yn ystod y tymor hwnnw yn yr Uwch Gynghrair, gyda Vincent Tan yn ei feirniadu’n llym am orwario ar chwaraewyr.
Fe ddywedodd y clwb fod y ffigyrau diweddaraf yn dangos pa mor bwysig oedd hi bellach i wario’n fwy call.
“Ar ôl disgyn o Uwch Gynghrair Barclays mae’r perchnogion yn ymwybodol fod yn rhaid buddsoddi i gryfhau’r tîm unwaith eto, ond bod yn rhaid gwario’n gall,” meddai’r clwb yn eu hadroddiad.
“Er nad yw ariannu tymor hir wedi cael ei warantu, mae’r buddsoddwyr o Falaysia wedi dweud y byddan nhw’n parhau i gefnogi’r cwmni yn y dyfodol a darparu arian ychwanegol er mwyn setlo’i dyledion cyn belled â bod y busnes yn datblygu fel y cynlluniwyd.”