Mae rhanbarth y Gleision wedi cadarnhau bod eu Cyfarwyddwr Rygbi, Mark Hammett wedi gadael ei swydd ar ôl chwe mis yn unig o gytundeb tair blynedd.

Mewn datganiad, dywedodd y Gleision fod Hammett wedi gadael “am resymau personol” a’i fod yn dychwelyd i Seland Newydd ar unwaith.

Arwyddodd Hammett gytundeb tair blynedd haf diwethaf, ond tymor digon cymysg gafodd y Gleision hyd yn hyn.

Mae’r rhanbarth wedi cyrraedd wyth olaf Cwpan Her Ewrop, ond maen nhw’n ddegfed yng Nghyghrair y PRO12 ar ôl ennill pedair gêm yn unig allan o 15.

Bydd Paul John a Dale McIntosh yn arwain y tîm tra bo’r chwilio am olynydd Hammett yn parhau.

Mewn datganiad, dywedodd Mark Hammett: “Rwy wedi mwynhau fy nghyfnod gyda’r Gleision a fy mwriad o’r dechrau oedd dod â llwyddiant i’r rhanbarth drwy gydol fy nghytundeb.

“Fodd bynnag, y teulu yw’r flaenoriaeth ac felly rwy’n edifar fy mod yn gadael y swydd.

“Hoffwn ddiolch i Peter Thomas a’r bwrdd cyfarwyddwyr am eu cefnogaeth wrth adael i fi ddychwelyd adref cyn gynted â phosib.”

Dywedodd prif weithredwr y Gleision, Richard Holland: “Roedden ni’n naturiol yn siomedig iawn ac wedi synnu pan roddodd Mark wybod i ni am ei benderfyniad.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n deall y rhesymau personol roddodd e i ni yn llwyr, ac mae ganddo fe ein cefnogaeth lawn ni.”