Aled Morgan Hughes
Aled Morgan Hughes sydd yn edrych ar y chwaraewyr addawol allai ddisgleirio eleni …

Mae’r gobeithion yn uchel y gall 2015 fod yn flwyddyn i’w chofio i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Gyda’r tîm bellach yn agos at frig y grŵp a chwe gêm i’w chwarae, mae’r breuddwydion am drip bythgofiadwy i Ffrainc yn haf 2016 yn araf agosáu at gael eu gwireddu.

Mae yno dal lawer i wneud, does dim dwywaith am hynny – ond gyda thalent ddi-gwestiwn Bale, Ramsey ag Allen, a gwaed ifanc chwaraewyr megis Emyr Huws a Jonny Williams ynghyd â’r gweddill, fe all hi fod yn flwyddyn i’w chofio.

Fodd bynnag, tu hwnt i’r enwau arferol, pa Gymry eraill ddylen ni fod yn ymwybodol ohonyn nhw? Dyma bump dw i’n credu allai gipio rhai penawdau yn 2015.

Tom Bradshaw (Walsall)

Er ond yn 22 oed, mae’n teimlo fel pe bae Bradshaw o gwmpas ers blynyddoedd maith.

Dechreuodd y blaenwr ei yrfa gydag Aberystwyth ac arwyddo i’r Amwythig yn 2009, ble chwaraeodd 89 o gemau a tharo cefn y rhwyd 17 o weithiau.

Wrth i’r Amwythig syrthio nôl i Gynghrair Dau yn 2014 fe arwyddodd Bradshaw i Walsall, a teg fuasai nodi ei fod wedi cael cryn dipyn o lwyddiant yn y crys coch ers ei drosglwyddiad.

Bellach fo ydi’r pedwerydd sgoriwr uchaf yng Nghynghrair Un gyda 12 gôl mewn 18 gêm – cyfanswm hynod o barchus.

Mae’n gallu brolio pedwar cap dan-19 oed ac wyth cap dan-21 dros Gymru, gan hefyd ennill lle ar restr wrth gefn y tîm cenedlaethol ar gyfer y gemau yn erbyn Bosnia a Chyprus fis Hydref diwethaf.

Os yw’n parhau i danio i Walsall, a chyda’r diffyg o ran blaenwyr effeithiol sydd gan Gymru, mae’n bur debyg mai dim ond mater o amser fydd hi tan y bydd Bradshaw yn ennill ei le yn y garfan ryngwladol lawn.

Ash Taylor (Aberdeen)

Gydag ond tri chap dan-19 ac un cap dan-21 oed dros Gymru i’w enw, teg fuasai dweud fod Taylor ymhell o fod yn enw sy’n neidio i’r meddwl.

Bellach yn 24 oed, mae’r amddiffynnwr gynt o Tranmere Rovers yn chwarae yn Uwch Gynghrair yr Alban gydag Aberdeen.

Yn groes i ragolygon rhai sylwebwyr mae’r tîm bellach yn ail yn y Gynghrair, dim ond tri phwynt y tu ôl i Celtic, a Taylor wedi chwarae dros 20 o weithiau a phrofi’n angor i amddiffyn y Dons.

Gydag ofnau am ffitrwydd James Chester ar gyfer gêm nesaf Cymru yn Israel, ac eraill yn cwestiynu teyrngarwch Collins, a fuasai Taylor yn gallu bod yn ateb i ofidion amddiffynnol Coleman?

Lee Evans (Wolverhampton)

Nid y digrifwr adnabyddus, ond yn hytrach y pêl-droediwr – mae Evans bellach yn ei ail dymor gyda Wolverhampton yn dilyn ei drosglwyddiad o Gasnewydd yn Ionawr 2013, a does dim dwywaith bod gan y chwaraewr canol cae ddyfodol disglair o’i flaen.

Gyda chwe chap (a dwy gôl) i dîm dan-21 Cymru fe gafodd ei alw gan Chris Coleman i’r garfan hŷn ar gyfer gemau mis Hydref 2014, ond bu raid i Evans dynnu nôl oherwydd anaf.

Fodd bynnag, os yw’n parhau i serennu i Wolves yn y Bencampwriaeth dim ond mater o amser fydd hi tan y bydd yn dod i’w weld fel eilydd naturiol i Allen neu Ledley yng nghrys coch Cymru.

Chris Venables (Aberystwyth)

Mae ei berfformiadau i Aberystwyth dros y misoedd diwethaf wedi bod yn wefreiddiol, gan hyd yn oed herio ystadegau Ronaldo.

Mae Venables yn 30 oed eleni, ac fe ellir dadlau o bosib bod ei flynyddoedd gorau y tu ôl iddo.

Buasai hyd yn oed crybwyll “call up” i dîm Coleman yn chwerthinllyd, ond gyda’r holl goliau a pherfformiadau gwych i Aber, fydd hi’n fawr o syndod petai o’n denu sylw rhai clybiau o’r cynghreiriau is yn Lloegr yn ffenestr drosglwyddo’r haf.

Lloyd Isgrove (Southampton)

I’r rhai ohonoch sy’n hoff o’r gêm Football Manager, dw i’n siŵr fyddech yn cytuno bod gan yr asgellwr yma botensial di-ri.

O’r un system academi â Bale a Theo Walcott, mae Isgrove bellach yn 22 oed a chyda chwe chap i dîm dan-21 Cymru.

Mae’r asgellwr wedi wynebu tipyn o frwydr wrth geisio sefydlu ei hun fel enw cyson yn nhîm Ronald Koeman yn Southampton – dim ond wyth munud mae o wedi chwarae i’r tîm cyntaf trwy gydol y tymor presennol.

Ond tybed ai eleni fydd y flwyddyn y bydd o’n torri drwyddo o’r diwedd – neu a fydd yn rhaid iddo symud o St. Mary’s i geisio canfod ei draed?