Y dewis (Llun WST)
Fe fydd cefnogwyr Wrecsam yn cael y cyfle i ddewis eu cit swyddogol ar gyfer y tymor nesaf mewn pleidlais ar-lein i aelodau’r clwb.

Mae gwneuthurwyr cit y tymor nesaf, Adidas, wedi dylunio dau git cartref a dau git oddi cartref er mwyn i gefnogwyr gael y dewis.

Mae’r bleidlais ar agor ar wefan Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr ac mae’n rhaid bod yn aelod i allu pleidleisio.

Fe fydd cefnogwyr yn medru dewis o un ai crys coch, neu grys streipïog coch a gwyn, ar gyfer y crys cartref. Oddi cartref y dewis yw melyn neu streipiau glas golau a gwyn.

4,000 o aelodau

Mae gan Wrecsam bron i 4,000 o gefnogwyr yn aelodau, ac fel cyfranddalwyr mae’r aelodau hynny berchen y clwb ac yn cael mynegi eu barn ar sut mae’r clwb yn cael ei redeg.

Dywedodd cyfarwyddwr y clwb John Mills fod gadael i’r cefnogwyr bleidleisio am y cit newydd yn gam naturiol felly.

“Mae bod yn gydberchennog ar glwb pêl-droed Wrecsam yn dod â manteision gwych,” meddai John Mills. “Y fantais ddiweddara’ i’n haelodau ni yw’r cyfle i ddewis cit y tymor nesaf.”

Mae gan aelodau nes 10.00 nos Fawrth 3 Chwefror i bleidleisio, ac fe fydd y cit buddugol yn cael ei ddatgelu yn ystod y gêm gartref yn erbyn Barnet ar ddydd Sant Ffolant.