Jack Cork yn chwarae yn erbyn Caerdydd (Jon Candy CCA 2.0)
Mae Abertawe yn agosáu at arwyddo Jack Cork wedi adroddiadau eu bod wedi cytuno ar ffi o £3m gyda Southampton am y chwaraewr canol cae.
Mae cytundeb Cork gyda Southampton yn dod i ben yn yr haf, ac ar ôl iddo wrthod cytundeb newydd mae’n debyg fod y clwb o dde Lloegr yn barod i’w werthu.
Roedd tad Jack Cork, Alan, yn gyn-reolwr yn Abertawe ac mae’r Elyrch wedi bod yn cadw llygad ar y chwaraewr 25 oed ers sbel.
Yn ôl papur yr Irish Sun, mae Abertawe hefyd yn awyddus i arwyddo Aaron Lennon o Spurs, ac fe allan nhw orfod talu tua £7.5m am yr asgellwr.
Arian i’w wario
Ar ôl gwerthu’r ymosodwr Wilfried Bony i Manchester City am £28m mae gan Abertawe arian i’w wario’r mis hwn.
Mae’r clwb eisoes wedi arwyddo Matty Grimes o Gaerwysg am £1.75m a Kyle Naughton o Spurs am £5m, ac maen nhw hefyd yn parhau i geisio arwyddo’r cefnwyr chwith Martin Olsson o Norwich a Franck Tabanou o St. Etienne.
Fe allai Neil Taylor adael Abertawe cyn diwedd y mis fodd bynnag gan fod Crystal Palace yn awyddus i arwyddo’r amddiffynnwr, ond hyd yn hyn dyw’r ddau glwb ddim wedi cytuno ar ffi am y Cymro.