Robson-Kanu, Ramsey a Bale yn diolch i'w cefnogwyr nos Sul (llun: CBDC)
Bydd dau dîm hyderus iawn yn herio’i gilydd yn Israel mewn tri mis, yn ôl Aled Jones …

Nos Sul fe hawliodd y Cymry bwynt gwerthfawr arall ar y cyfandir.

Mae Chris Coleman a’i garfan gam yn agosach at Ffrainc 2016 wedi gêm ddi-sgôr ym Mrwsel.

I’r rhai oedd yn ddigon ffodus i ymweld â gwlad y siocled a’r cwrw roedd gwledd yn siŵr o ddilyn, wedi llwyddiant eu harwyr i nadu Eden Hazard a’i ffrindiau.

Roedd hi’n frwydr a hanner i Gymru yn eu crysau melyn diweddaraf, gan edrych ar adegau fel tasai’r gôl agoriadol i’r tîm cartref yn anochel.

Ond llusgwyd y chwaraewyr dros y llinell wen gan eu cyd-Gymry i diwn Gŵyr Harlech, ac roedd y dathliadau ar y diwedd gan y Cymry swnllyd yn dystiolaeth o fawredd y gamp gan y chwaraewyr.

Gareth yn agos

Prin oedd y cyfleoedd i Gymru, er nad oedd hynny’n syndod i unrhyw un. Hyd yn oed yn llai o syndod oedd y ffaith mai’r Galactico Gareth Bale oedd canolbwynt yr ychydig gyfleoedd.

Hwyrach fod hyd yn oed Courtois wedi poeni am eiliad neu ddwy wrth weld Bale yn camu’n ôl yn barod i ergydio’i gic rydd danbaid ddiweddaraf i gefn y rhwyd, ond roedd y golwr ifanc yn gymwys i’r dasg.

Roedd bron cyfle am glasur arall gan Bale wrth iddo lithro heibio cwpl o amddiffynwyr cyn gweld ei ergyd yn chwibanu heibio’r postyn pellaf o ongl fain.

Clod yn y cefn

Ar wahân i ddoniau Gareth, y gŵyr yn y cefn sy’n haeddu’r clod. Roedd Hennessey heb ei ail rhwng y pyst, gan gydio’n gadarn ym mhob pêl a ddaeth i’w gyfeiriad heb ollwng yr un.

Yn ogystal â hynny, gwelsom berfformiad digynnwrf perffaith unwaith yn rhagor gan James Chester y bydda John Terry neu Sergio Ramos wedi bod yn falch ohono.

Campus hefyd oedd Ashley Williams a’r cefnwyr de a chwith, Chris Gunter a Neil Taylor, yn eu tro.

Gall y ddau Joe yng nghanol y cae, Allen a Ledley, hefyd fod yn fodlon gyda’u cyfraniadau selog i’r gêm, a chroesawyd enw Aaron Ramsey i restr y garfan unwaith eto.

Cafwyd sawl cyfle i’r gwesteion fynd ar y blaen, ond ofer oedd eu hymdrechion.

Hwyrach mai’r arwydd mwyaf fod lwc ar ochr y Cymry ac mai noson i’r ymwelwyr fyddai hi oedd pan daranodd ergyd Lombaerts yn erbyn y postyn cyn i Origi droedio’r ail gyfle fodfeddi heibio i’r postyn arall.

Israel i ddod

Does posib fod hyd yn oed buddugoliaeth Israel o 3-0 yn erbyn Bosnia wedi amharu dim ar ddathliadau’r Cymry – a oedd, yn ôl y gân a atseiniodd o gwmpas Brwsel, yn gyndyn i ddod adref a dychwelyd i’r gwaith.

Grŵp digon diddorol yw Grŵp B bellach wedi’r grasfa honno i’r Bosniaid. Mae Israel, gwrthwynebwyr nesaf Cymru yn y grŵp, ar ben y domen a gyda thair buddugoliaeth o dair, ac os oedd rhai’n disgwyl i’r gemau yn eu herbyn nhw fod yn un o’r rhai hawsaf, nid felly y mae hi erbyn hyn.

Fe fydd Cyprus hefyd yn siŵr o fod yn awyddus i gipio pwyntiau eto oddi ar y timau uwch eu pennau, felly mae’n debyg y bydd ambell dro arall yn y gynffon cyn diwedd y grŵp.

Tân yn y boliau

Ond mae digon o obaith i Gymru, wedi gemau agoriadol boddhaol ac addawol iawn.

Nid yw helynt ynglŷn â Chymro arall yn gorffen dedfryd carchar hyd yn oed yn ddigon i ddwyn y clod oddi wrth y tîm cenedlaethol yn ddiweddar, a braf yw hi i weld yr ymfalchïo a’r balchder yn ôl unwaith eto.

Mae’r awch ar gyfer y gêm honno yn Israel wedi’i thanio’n barod, a dydi’r fflam yna o frwdfrydedd ddim yn mynd i ddiffodd am amser hir eto.

Dyma obeithio’n fawr y cawn weld y tîm yn closio i’r un cyfarwydd gylch ar ddiwedd y gêm honno hefyd, ac y cawn glywed ‘We are top the league’ unwaith yn rhagor yn atseinio’n rhyw gornel yn y Dwyrain Canol.