Gareth Davies, Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi cynnig cytundebau deuol i ddeuddeg o chwaraewyr Cymru.
Dydyn nhw heb ddatgelu enwau’r deuddeg eto, ond y gred yw bod yr asgellwr Dan Lydiate yn un o’r chwaraewyr hynny.
Mae Lydiate ar ei ffordd yn ôl o Ffrainc ar ôl cyfnod siomedig gyda Racing Metro, ac fe fydd yn arwyddo i un o ranbarthau Cymru fis nesaf.
Pwy arall?
Mae hyfforddwr y Dreigiau hefyd wedi cadarnhau fod tri o’i chwaraewyr ef – Taulupe Faletau, Hallam Amos a Tyler Morgan – wedi cael cynnig cytundebau.
Yn ôl adroddiadau mae sêr y Gweilch Dan Biggar ac Alun Wyn Jones, yn ogystal â chwaraewyr y Scarlets Scott Williams, Samson Lee a Liam Williams, hefyd wedi cael cynnig y cytundebau.
Fe allai maswr newydd y Gleision Gareth Anscombe, sydd newydd symud o Seland Newydd, hefyd fod ar y rhestr.
Yr unig chwaraewr ar gytundeb deuol ar hyn o bryd yw capten Cymru Sam Warburton, ac mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn rhan allweddol o’r broses o ddewis pa chwaraewyr sydd yn cael cynnig y cytundebau.
“Rydw i wrth fy modd fod Undeb Rygbi Cymru a’r pedwar rhanbarth wedi llwyddo i gymryd y cam positif yma tuag at gyflwyno cytundebau deuol i rygbi Cymru,” meddai cadeirydd newydd yr Undeb Gareth Davies.
“Mae llawer o waith caled wedi mynd tuag at gyrraedd y pwynt yma ac rydyn ni nawr yn rhan olaf y trafodaethau cyntaf yma.”