Ched Evans
Mae’r BBC wedi ymddiheuro ar ôl i gyflwynydd Radio Norfolk ddweud yn ystod rhaglen y dylai “merched gadw eu dillad isaf ymlaen”.
Gwnaeth Nick Conrad ei sylwadau yn ystod rhaglen oedd yn trafod achos pêl-droediwr Cymru a Sheffield United, Ched Evans.
Cafodd Evans ei ryddhau o’r carchar yn ddiweddar, wedi iddo dreulio dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio menyw ifanc mewn gwesty yn Y Rhyl.
Yn ystod y rhaglen, dywedodd y cyflwynydd: “Dw i’n credu bod angen i ferched fod yn fwy ymwybodol o chwant rhywiol dynion, fod cymaint o egni rhywiol yng nghorff dynion pan ydych chi ar fin cael rhyw, mae yna lot fawr o ewyllys a bwriad, ac mae’n anodd iawn i nifer o ddynion ddweud ‘Na’ pan fyddan nhw’n cael eu cynhyrfu’n lân.”
Ychwanegodd fod ffeministiaid wedi manteisio ar achos Ched Evans i leisio barn negyddol am ddynion.
“Yr hyn dw i’n trio’i ddweud yw bod rhaid i fenywod ddeall hefyd, pan fydd dyn yn rhoi signalau arbennig fe fydd e’n dymuno gweithredu arnyn nhw ac os nad ydych chi am roi signalau anghywir, yna gwell fyddai cadw eich dillad isaf ymlaen a pheidio mynd i’r gwely gyda fe. Ydy hynny’n gwneud synnwyr?”
Dywedodd llefarydd ar ran yr orsaf nad ydyn nhw wedi derbyn cwynion am sylwadau’r cyflwynydd.
Ond ychwanegodd fod Conrad wedi cael ei geryddu am ei sylwadau a’i fod wedi ymddiheuro.
Mae nifer o bobol wedi troi at wefan gymdeithasol Twitter i fynnu ei fod yn ymddiheuro’n gyhoeddus ar yr awyr.