Vorm yn ei ddyddiau gydag Abertawe (llun: gwefan CPD Abertawe)
Mae cyn-glwb Michel Vorm yn ystyried mynd ag Abertawe i’r llys dros y ffordd y cafodd y golwr ei werthu i Tottenham yn yr haf, yn ôl adroddiadau.
Dywedodd prif weithredwr clwb FC Utrecht o’r Iseldiroedd nad oedd Abertawe wedi talu’r arian oedd yn ddyledus iddynt.
Mae’r clwb hefyd yn cyhuddo trosglwyddiad y Cymro Ben Davies o gymylu’r dyfroedd, gan ddweud bod hynny wedi’u twyllo o ragor o arian.
Fe symudodd Vorm i Abertawe yn 2011 am £1.5m, cyn cael ei werthu i Spurs yr haf hwn am swm o tua £3.5m.
Bygythiad Utrecht
Yn ei dair blynedd gyda’r Elyrch roedd Vorm yn un o sêr y tîm, gan helpu’r clwb i sefydlu ei hun yn yr Uwch Gynghrair.
Roedd hefyd yn rhan o garfan yr Iseldiroedd a orffennodd yn drydydd yng Nghwpan y Byd eleni.
Pa werthodd Utrecht y golwr i Abertawe, roedd cymal yn y cytundeb yn dweud y bydden nhw’n cael 30% o unrhyw ffi fyddai Abertawe’n ei gael petai nhw’n ei werthu ymlaen.
Ond dywedodd yn ôl y clwb i’r Iseldiroedd, dydyn nhw dal heb dderbyn y 30% sydd yn ddyledus iddyn nhw o’r swm dalodd Spurs am y chwaraewr eleni.
Maen nhw hefyd yn gandryll bod Vorm wedi mynd am bris mor isel, ac yn credu y dylai Abertawe fod wedi’i werthu am bris llawer uwch.
Mae FIFA nawr yn dyfarnu ar y mater, ac fe allai’r achos fynd i’r Llys Gyflafareddu Chwaraeon.
“Cawn weld, ond rydyn ni’n hyderus am y dyfarniad,” meddai prif weithredwr Utrecht, Wilko Van Schaik, wrth bapur De Telegraaf.
“Mae pawb rydyn ni’n siarad â nhw yn y byd pêl-droed yn cydnabod fod y peth yn drewi.”
Beio Davies
Yn ôl yr adroddiad, mae Utrecht yn anhapus bod Vorm wedi cael ei werthu am gyn lleied o arian gan Abertawe, ond bod Ben Davies wedi mynd am bris llawer uwch.
Fe symudodd Davies o Abertawe i Tottenham hefyd dros yr haf a chael ei gyfnewid am Gylfi Sigurdsson, gyda’r ddau glwb yn cytuno fod y chwaraewyr cyfwerth â’i gilydd – tua £8m.
Ond yn ôl Utrecht fe wnaeth Abertawe hyn yn fwriadol, gan werthu Davies am swm uwch na’i werth cyn gadael i Spurs brynu Vorm am bris llawer rhatach na beth ddylen nhw wedi talu – er mwyn osgoi gorfod rhoi mwy o gyfran iddyn nhw.
Ac maen nhw’n defnyddio dewisiadau tîm Spurs fel tystiolaeth – dim ond 17 munud y mae Davies wedi chwarae dros ei glwb newydd y tymor hwn yn y gynghrair, er ei fod yn chwarae’n rheolaidd mewn gemau cwpan.
Yn ôl Utrecht, mae hynny’n dangos nad yw Spurs yn credu bod Davies cystal chwaraewr ag yr oedd ei bris yn ei awgrymu.