Mae Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris wedi mynegi ei siom fod y chwaraewr amryddawn a chapten T20 Morgannwg, Jim Allenby wedi symud i Wlad yr Haf.
Bydd Allenby yn ail-ymuno â Matthew Maynard, prif hyfforddwr newydd y sir a chyn-brif hyfforddwr Morgannwg.
Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Tra ein bod ni’n gwerthfawrogi cyfraniad Jim ar y cae i Glwb Criced Morgannwg dros gyfnod o bum tymor, rydyn ni’n siomedig ei fod yn teimlo y byddai’n well symud i ffwrdd o Stadiwm SWALEC yn y cyfnod nesaf yn ei yrfa.
“Mae’n drueni gweld Jim yn gadael, ond wrth i ni ganolbwyntio ar ail-adeiladu tîm sy’n gallu cystadlu’n gyson am anrhydeddau domestig, rhaid i bawb yn y clwb ymrwymo’n llawn i sicrhau llwyddiant i’r sir unwaith eto.”
Wrth gyhoeddi’r newyddion ar ei dudalen Twitter, dywedodd Jim Allenby: “Diolch i @GlamCricket am 5 mlynedd a hanner gwych. Wedi dwlu ar fy nghyfnod yng Nghymru ac wedi cwrdd â phobol gwych”.
Ychwanegodd mewn datganiad: “Dw i wedi mwynhau fy nghyfnod gyda Morgannwg a hoffwn ddiolch i’r cefnogwyr am y croeso a’r gefnogaeth tra ’mod i wedi bod yn chwarae i’r clwb.
“Dw i’n gadael Morgannwg gydag atgofion gwych a nifer o ffrindiau dw i’n gobeithio y byddan nhw gyda fi am byth.
“Dw i’n dymuno pob llwyddiant i’r chwaraewyr a gobeithio y byddan nhw’n cael gyrfaoedd hir llawn mwynhad.”
‘Caffaeliad’
Ar wefan Clwb Criced Gwlad yr Haf, dywedodd eu prif hyfforddwr Matthew Maynard: “Dw i wrth fy modd fod Jim yn ymuno â ni.
“Nid yn unig mae e’n chwaraewr rhagorol ym mhob fformat, ond mae e hefyd yn foi gwych ac yn gymeriad cryf, a dw i’n sicr y bydd e’n chwarae rhan allweddol i’n helpu ni i adeiladu tîm llwyddiannus.”
Ychwanegodd ei fod yn “gaffaeliad gwych” i’r clwb.
Craig Meschede
Wrth i Allenby symud i dde-orllewin Lloegr, mae Craig Meschede yn symud i Gymru ar fenthyg am dymor.
Mae Meschede yn chwaraewr amryddawn ifanc cyffrous sy’n arbenigo mewn gemau undydd.
Dywedodd Craig Meschede mewn datganiad: “Dw i’n edrych ymlaen at y cyfle i ddatblygu fy sgiliau fel cricedwr proffesiynol a dw i wir yn edrych ymlaen at y sialensau a’r cyffro o symud i Forgannwg am y tymor.”
Yn y cyfamser, mae’r batiwr agoriadol Jacques Rudolph wedi ymestyn ei gytundeb tan ddiwedd tymor 2017.
Cafodd Rudolph ei enwi’n Chwaraewr Rhestr A y Flwyddyn yn noson wobrau’r clwb ar ddiwedd y tymor.