Llywelyn Williams
Ers dod yn agos iawn at ennill yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf, ac er iddyn nhw geisio cryfhau’r garfan yn sgil ymadawiad Luis Suarez, nid yw Lerpwl wedi tanio’r un fath a’r arfer yn ystod y misoedd cyntaf y tymor.
Gyda dwy golled yng Nghynghrair y Pencampwyr hyd yn hyn, a cholli’n esgeulus i Aston Villa a West Ham oddi cartref, a yw Lerpwl yn wynebu argyfwng o fewn y garfan unwaith yn rhagor?
Cynghrair y Pencampwyr – Gormod o bwysau?
Mae bron i bum mlynedd ers i Lerpwl gystadlu yn y gystadleuaeth hon, ac fe roedd hi’n bum mlynedd anodd iawn hefyd wrth geisio ennill eu lle yn ôl yn Ewrop.
Doedd ganddyn nhw jyst ddim yr un fath o gyllid a chysondeb ar y cae yn nyddiau Roy Hodgson a Kenny Dalglish i gadw fyny efo Manchester City, Tottenham, Arsenal, Manchester United a Chelsea.
Mae Lerpwl hefyd wedi dioddef ymadawiad chwaraewyr a fu’n hynod o allweddol i berfformiadau’r clwb drwy gydol y pum mlynedd ddiwethaf megis Xabi Alonso, Javier Mascherano, Fernando Torres, ac yn ddiweddar Suarez, gan adael y clwb gyda diffyg chwaraewyr o safon world class er mwyn paratoi ar gyfer Ewrop yn iawn.
Y canlyniadau diweddar oedd ennill o drwch blewyn drwy gic o’r smotyn yn eiliadau olaf y gêm yn erbyn Ludogorets adref yn Anfield, colli 1-0 i ffwrdd yn Basel, ac wrth gwrs crasfa’r wythnos hon yn erbyn Galacticos Real Madrid.
Nid yw’r perfformiadau yn fy marn i wedi bod yn gyfforddus iawn, nac ychwaith yn addawol er mwyn dangos i Ewrop unwaith yn rhagor fod Lerpwl nôl mewn busnes.
Achos ar y foment mae’n edrych yn debyg os nad ydyn nhw’n torchi llewys nawr, y bydd Lerpwl allan ohoni cyn y Nadolig mae arna i ofn, yn Ewrop ac yn yr Uwch Gynghrair.
Creu cyfleoedd
Fel cefnogwr roeddwn yn weddol bles â’r cyfleoedd a greodd Lerpwl, yn enwedig wrth wrthymosod yn erbyn Real a Basel.
Ond roedd gennai deimlad fod Lerpwl yn methu fod digon clinigol o flaen y gôl. Roeddwn yn gweld Lerpwl yn methu gorffen y cyfle yn iawn, gan foddi wrth y lan droeon wrth fethu a rhoi’r bas olaf, neu anallu i groesi neu ergydio am y gôl.
Mae gan Lerpwl garfan gref iawn ar gyfer y ddwy gystadleuaeth, ond nid ydynt rhywsut wedi dangos hynny ar y foment, gan edrych reit flinedig a rhwystredig fel tîm.
Os ydyn nhw wirioneddol o ddifrif am esgyn unwaith eto i fod yn un o glybiau mwyaf Ewrop, mae’n rhaid gwella’r cyfleoedd, ac yn bwysicach, sgorio fwy o goliau.
Colli Sturridge
Mae arnaf ofn nad yw Mario Balotelli heb greu argraff arnaf fyny ffrynt hyd yn hyn, gan fethu â chymryd y pwysau a’r holl gyfrifoldeb ar ben ei hun.
Ond mae gen i deimlad y byddai’n chwarae’n well gydag ymosodwr arall. Yn anffodus, nid Rickie Lambert yw’r ateb, gan fod Lambert a Balotelli yn chwarae’r un fath o bêl-droed, sef dal y bêl i fyny ac yn bresenoldeb mwy corfforol yn hytrach na gwneud rhediadau.
I mi, fe allai Balotelli wella’n sylweddol pan ddaw Sturridge nôl i’r cae chwarae. Fe chwaraeon nhw’n dda iawn gyda’i gilydd yn erbyn Tottenham rhyw fis yn ôl, gyda’r ddau yn deall ei gilydd. Amser a ddengys felly, gobeithio!
Mi fuasai’n syniad go dda i Rodgers feddwl am brynu neu fenthyg ymosodwr yn ystod y ffenestr drosglwyddo ym mis Ionawr, dim ond er mwyn cael rhyw fath o gefnogaeth rhag ofn i Sturridge anafu unwaith eto.
Nid yw’n deg gorfod rhoi’r pwysau ar Raheem Sterling i wneud y gwaith ymosod i gyd. Edrychodd Sterling yn reit allan ohoni fyny ffrynt nos Fercher.
Amddiffyn heb setlo
Mae Lerpwl wedi trawsnewid yr amddiffyn drwy gydol yr haf gyda chwaraewyr newydd megis Dejan Lovren, Alberto Moreno a Javi Manquillo a’r anfarwol Daniel Agger yn gadael.
Mae hyn yn rhan o gynllun Rodgers i adeiladu ar gyfer y dyfodol yn y deng mlynedd nesaf dw i’n amau. Nid yw’r bartneriaeth rhwng Martin Skrtel, Mamadou Sakho a Lovren wedi dwyn ffrwyth yn y misoedd cyntaf.
Y tymor diwethaf fe gydweithiodd Skrtel a Sakho’n weddol effeithiol ar y cae, ond roedd Lerpwl hefyd yn elwa o brofiad Agger yn y cefn er mwyn cadw’r amddiffyn yn soled.
Tybed a oedd Agger wedi cael ei ryddhau’n rhy gynnar o Anfield? Amddiffynnwr ardderchog yn fy marn i, ac ni ddylai Rodgers wedi gadael iddo fynd.
Mae ffydd gennyf yn Lovren hefyd, ond mae angen iddo leihau ar y camgymeriadau a dechrau cyfathrebu gyda Skrtel yn well. Mae’r safon yno, ond efallai bod angen mwy o amser iddo ddechrau setlo fewn i ffordd o chwarae Rodgers.
Absenoldeb Allen
Roedd llawer o sôn ar y cyfryngau cymdeithasol fod cefnogwyr Lerpwl yn dweud eu bod wedi colli Joe Allen yng nghanol y cae dros yr wythnosau diwethaf.
Braf oedd gweld y Cymro nôl yn erbyn Real nos Fercher, a gobeithio cawn ei weld yn dechrau’n gyson i’r clwb unwaith yn rhagor.
Mae Allen yn gweithio’n galed i sicrhau meddiant ar gyfer cyfleoedd ac mae ei gyfradd basio’n rhagorol chwarae teg dros ei glwb a dros ei wlad.
Mi fydd yn allweddol iddo ddechrau’n gyson dros Lerpwl er mwyn iddo fod yn ffit ac yn barod ar gyfer gêm Cymru yng Ngwlad Belg ym mis Tachwedd.
Mae angen i Gymru gael eu chwaraewyr i chwarae’n gyson yn erbyn gwrthwynebwyr o safon bob wythnos … ond heb gael eu hanafu yn y broses wrth gwrs!
Hull ddydd Sadwrn
Hull fydd gwrthwynebwyr Lerpwl bnawn ddydd Sadwrn ac yn Anfield, ac mi fuasai buddugoliaeth yn hynod werthfawr iddynt er mwyn codi nôl fyny i’r tabl ac agosáu at y pedwar uchaf.
Mi fydd rhaid ennill er mwyn adennill dipyn o hunan-barch a lleddfu’r boen ‘r golled i Real. Cael a chael oedd hi unwaith eto yn erbyn QPR ddydd Sul diwethaf, felly mae buddugoliaeth gyfforddus yn allweddol i leihau’r nerfau.
Y canlyniad bnawn fory? Lerpwl ennill o 2-0 – ond mae’n dibynnu’n llwyr ar ba fath o dîm neith droi fyny!