George North
Mae George North yn disgwyl “gêm galed” yn erbyn y rhanbarth o Gymru sy’n ddiguro hyd yma’r tymor hwn.
Bydd y cawr o Fôn yn wynebu’r Gweilch yng nghystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Ewrop yfory.
Bydd North a Northampton yn gobeithio am well canlyniad gartref yn Franklin’s Gardens yfory ar ôl colli oddi cartref yn Ffrainc penwsos diwetha’.
Mae gan George North ddigon o brofiad o chwarae yn erbyn y Gweilch pan oedd yn rhan o dîm y Scarlets.
“Bydd y Gweilch yn dod yma yn llawn hyder ar ôl ennill pob un o’u gemau’r tymor hwn,” meddai’r asgellwr anferth.
“Mi fydd hi’n gêm galed ond mae angen buddugoliaeth arnom. Yn naturiol yr wyf yn adnabod llawer o’r bechgyn, ac wedi chwarae gyda ac yn erbyn sawl un ohonyn nhw ac yr wyf, ynghyd â gweddill y tîm, yn edrych ymlaen at y gêm.’’