Garry Monk (Martin Rickett/PA)
Mae rheolwr Abertawe wedi galw eto am gosbi chwaraewyr sy’n twyllo – hyd yn oed os nad yw dyfarnwyr wedi eu gweld.
Yn ôl Garry Monk, fe ddylai Cymdeithas Bêl-droed Lloegr gael trefn i ystyried cwynion yn erbyn chwaraewyr a’u cosbi ar ôl gêmau.
Daw hynny wrth iddo gael gorchymyn gan y Gymdeithas i egluro sylwadau a wnaeth yn beirniadu un o chwaraewyr Stoke City ar ôl i’r Elyrch golli iddyn nhw yn eu gêm ddiwetha’.
Mae wedi cyhuddo’r blaenwr Victor Moses o ddeifio i ennill cic o’r smotyn ac mae wedi ailadrodd y cyhuddiad eto.
Yn ôl Monk, dim ond trwy ddisgyblu chwaraewyr ar ôl gêm y bydd deifio yn dod i ben – er fod Stoke yn mynnu bod un o amddiffynwyr Abertawe wedi ymyrryd â Moses wrth iddo redeg i’r blwch cosbi.
Geiriau Garry
Mae papur y Daily Mail yn dyfynnu Monk yn dweud y byddai’n cosbi unrhyw un o chwaraewyr Abertawe pe baen nhw’n ymddwyn felly.
“Fydden ni’n licio gweld cosbi ar ôl gêmau mewn sefyllfaoedd fel hyn – dirwy a gwaharddiad. Mae’n rhywbeth y dylen ni ei ystyried.
“Dw i ddim yn credu bod y rhan fwya’ o’r byd pêl-droed yn licio gweld hyn. Dyma’r unig ffordd hyd y gwela’ i i wneud i chwaraewyr feddwl ddwywaith cyn gwneud hyn.”