Hon ydi’r ail ddiwrnod yn olynol heb unrhyw gemau Cwpan y Byd, wrth i Frasil gael hoe fach cyn gemau’r wyth olaf ar y penwythnos.
Felly i leddfu poen pob un ohonoch chi fydd yn eistedd o flaen y teledu’n gorfod dewis rhwng Big Brother ac ailddarllediad Emmerdale heno (neu, och a gwae, gorfod gadael y tŷ!) mae criw golwg360 nôl gyda’r pod pêl-droed diweddaraf!
Gemau’r 16 olaf sydd yn cael llawer o’r sylw, wrth reswm, wrth i Owain Schiavone, Iolo Cheung a Rhys Jones ddewis eu huchafbwyntiau o’r wyth gêm honno.
Mae’r tri hefyd yn edrych ymlaen at y rownd nesaf, gan geisio darogan pa dimau mawr fydd yn mynd adref, ac yn dewis eu hoff foment o Gwpan y Byd hyd yn hyn.
Ac i gloi mae ambell bwt difyr o stori sydd wedi codi yn y dyddiau diwethaf – yn ogystal â pherfformiad, wel, od ar y naw o gân Cwpan y Byd ‘Brasiil, Brasiiiiil’.
Ia, ’da chi’n gwybod am ba un rydan ni’n sôn …
Nod yr adran Safbwynt yw sbarduno trafodaeth am Gymru a thrafodaeth am y byd yn Gymraeg. Gallwch gyfrannu erthyglau am unrhyw bwnc – diwylliant, yr iaith, celfyddydau, teledu, radio, yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, hanes, addysg, yr economi, yr iaith… unrhyw beth, ewch amdani!
Darllen rhagor
Ar ôl cyflwyno’ch erthygl, bydd golygyddion Golwg yn cael cyfle i’w golygu, ei chymeradwyo, a’i chyhoeddi – bydd eich erthygl wedyn yn ymddangos ar adran Safbwynt ar Golwg360.
Byddwn hefyd yn rhannu eich erthygl i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, felly cofiwch dynnu sylw at eich erthygl a’i hanfon at eich ffrindiau ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb. Bydd eich enw ar y wefan yn gweithredu fel dolen i’ch holl gyfraniadau – felly gallwch ei drin ychydig fel blog personol.
Os byddwch am gyfrannu’n rheolaidd – cysylltwch! Gallwn drefnu tanysgrifiad am ddim i gyfranwyr rheolaidd.
Mwynhewch y sgrifennu… a’r darllen!
Darllenwch ein canllawiau ar gyfrannu i’r adran Safbwynt