Gerald Davies
Mae un o fawrion y byd rygbi yng Nghymru, Gerald Davies wedi penderfynu gadael bwrdd Undeb Rygbi Cymru ar ôl naw mlynedd.
Cafodd ei ethol i’r bwrdd yn 2005 ond fydd e ddim yn sefyll yn yr etholiad nesaf, ac mae e wedi esbonio’i resymau mewn llythyr i’r Undeb.
Yn y llythyr, dywedodd fod “rygbi wedi chwarae rhan mor bwysig yn fy mywyd fel chwaraewr a gweinyddwr”.
Ond dywedodd nad yw’n bwriadu gadael y byd rygbi’n gyfan gwbl.
Daw ei benderfyniad ychydig wythnosau wedi i’r Undeb wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn sgil y ffrae ariannol rhyngddyn nhw a rhanbarthau Cymru.
Bryd hynny, dywedodd Gerald Davies fod delwedd rygbi yng Nghymru wedi cael ei niweidio.
Fel chwaraewr, enillodd 46 o gapiau dros Gymru, ac roedd yn aelod o garfan y Llewod ddwywaith, yn 1968 a 1971.
Bu’n rheolwr ar y Llewod yn 2009.