Mae rheolwr Abertawe, Garry Monk wedi dweud bod yr ymosodwr Marvin Emnes yn “teimlo’n gartrefol” yn Abertawe, wedi iddo sicrhau trosglwyddiad parhaol i’r Elyrch.
Treuliodd Emnes ddau gyfnod ar fenthyg yn y Liberty – un pan oedd yr Elyrch yn y Bencampwriaeth a’r ail y tymor diwethaf wedi i Monk ddisodli Michael Laudrup wrth y llyw.
Mae Emnes wedi dychwelyd i Abertawe o Middlesbrough am ffi nad yw wedi’i ddatgelu, ond mae lle i gredu bod yr Elyrch wedi talu £1.4 miliwn am yr ymosodwr.
Dywed Monk fod Emnes yn ychwanegiad “pwysig” i’r garfan, ac fe fydd e’n dechrau hyfforddi gyda’r clwb yr wythnos hon wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y tymor newydd.
Dywedodd Monk: “Mae Marvin yn drosglwyddiad pwysig i ni. Rwy’n credu’i fod e wir wedi cyfrannu yn y cyfnodau buodd e gyda’r clwb.
“Ro’n i’n hapus iawn gydag e, ac fe gawson ni sgyrsiau da ddiwedd y tymor diwethaf ac yn yr haf.
“Roedd e’n un o’r rhai roedden ni wastad yn awyddus i’w ddenu, felly diolch byth fod Marvin wedi cytuno i ddod.
“Fe fydd e’n ffitio i mewn i garfan mae’n ei hadnabod yn dda, ac mae e wedi profi ar y lefel yma y gall e gyfrannu.
“Rwy’n credu’i fod e’n teimlo’n gartrefol yma. Mae e wedi cael croeso yn ystod ei amser yma o’r blaen, ac mae’n gwybod beth mae’r clwb yn ei olygu i’r cefnogwyr a’r chwaraewyr.
“Mae’n foi da, mae’n gweithio’n galed ac fe fydd e’n dod yma i osod ei farc ar bethau, a dyna dw i am ei gael.”
Emnes yw’r trydydd chwaraewr i ddod i’r Liberty dros yr haf, yn dilyn trosglwyddiadau Bafetimbi Gomis a Lukasz Fabianski.