Mae’r Scarlets wedi cadarnhau y bydd yr asgellwr o Fiji, Michael Tagicakibau, yn ymuno â’r rhanbarth o’r gorllewin ar gyfer y tymor nesaf.
Wedi ymddangos 52 gwaith i Saracens, roedd Tagicakibau wedi bod yn rhan allweddol o’r garfan wrth iddyn nhw ennill Cynghrair Aviva yn 2011.
Yn ogystal â Saracens mae Tagicakibau wedi bod yn aelod o garfan y Cymry Llundain, Bryste a Taranaki.
Gwnaeth ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf ar gyfer Fiji yn 2007 a bu’n aelod o garfan Fiji ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2011.
‘‘Bydd Michael yn ychwanegu profiad ac aeddfedrwydd tuag at y garfan, mae’n amddiffynnwr arbennig ac yn chwaraewr cyffrous i wylio ar y cae,’’ meddai Simon Easterby, prif hyfforddwr y Scarlets.
‘‘Mae gan Michael brofiad rhyngwladol gyda Fiji ac wedi cael blas ar lwyddiant gyda Saracens, rwy’n siŵr bydd nifer yn edrych ymlaen at weld Michael yn chwarae ym Mharc y Scarlets,’’ ychwanegodd Easterby.
‘‘Rwyf yn edrych ymlaen at ymuno â’r Scarlets, ac yn hynod o gyffrous i herio fy hun mewn amgylchedd newydd. Mae gan y rhanbarth chwaraewyr arbennig a nifer o chwaraewyr talentog ifanc, rwy’n awyddus i greu argraff ac i barhau a’u llwyddiant yno,’’ meddai Tagicakibau