Andy Murray
Mae Andy Murray wedi colli o dair set i ddim yn rownd yr wyth olaf yn Wimbledon yn erbyn Grigor Dimitrov.

Collodd y pencampwr – oedd yn drydydd detholyn eleni – ei afael ar ei goron wrth i’r seren ifanc o Fwlgaria ddechrau’n gadarn, gan ennill y set gyntaf o 6-1.

Roedd yr ail set dipyn yn agosach ond colli oedd hanes Murray unwaith eto o 7-6 ac o 7-4 wrth dorri’r ddadl.

Ac fe sicrhaodd Dimitrov ei le yn y rownd gynderfynol am y tro cyntaf erioed wrth iddo ennill y drydedd set o 6-2.

Cyn heddiw, roedd Murray wedi ennill 17 gêm o’r bron, a hwn oedd y tro cyntaf iddo golli yn erbyn chwaraewr o’r tu allan i’r deg uchaf ers pedair blynedd.

Mae Dimitrov, sy’n 23 oed, yn gwneud enw iddo’i hun ar y cwrt ac oddi arno, gan ei fod hefyd yn gariad i Maria Sharapova.

Mae Dimitrov eisoes wedi ennill tair cystadleuaeth y tymor hwn, gan gynnwys honno yn Queens bythefnos yn ôl, ond dydy Murray ddim wedi cyrraedd rownd derfynol unrhyw gystadleuaeth ers iddo gael llawdriniaeth ar ei gefn fis Medi diwethaf.

Yn dilyn yr ornest, dywedodd Murray: “Doedd heddiw ddim yn ddiwrnod gwych.

“Rwy’n siomedig, ac yn arbennig o siomedig gyda’r ffordd wnes i ddechrau’r gêm.

“Fe ges i set gyntaf wael ac fe roddodd hynny hyder iddo fe ar y dechrau.

“Yn yr ail set, fe chwaraeodd e’n dynn ar y diwedd ac fe allai fod wedi mynd y naill ffordd neu’r llall. Pan gafodd e’r set honno, roedd yn haws o lawer setlo wrth fynd dwy set i ddim ar y blaen.

“Pe bawn i wedi llwyddo i ddod nôl… yn y set honno a’i hennill hi, efallai y byddwn i wedi gallu ffeindio ffordd yn ôl ond doedd heddiw ddim yn ddiwrnod gwych.”