Mae Morgannwg wedi colli o 249 o rediadau ar ddiwrnod olaf eu gornest yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn ail adran y Bencampwriaeth.

Wrth anelu am nod o 335 am y fuddugoliaeth, cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 105, wrth i’r troellwr o Bacistan, Saeed Ajmal gipio saith wiced am 34.

Dyma’r ail dro iddo gipio deg wiced mewn gornest y tymor hwn, ac mae’n golygu bod Swydd Gaerwrangon yn symud i frig yr ail adran, 12 o bwyntiau ar y blaen i Swydd Hampshire.

Dechreuodd ail fatiad Morgannwg yn hwyr neithiwr, wrth i’r noswyliwr Andrew Salter a Tom Lancefield ddod i’r llain.

Collodd Lancefield ei wiced yn gynnar y bore ma ac fe ddilynodd rhes o fatwyr yn fuan wedyn.

Cipiodd Charlie Morris (3-14) dair wiced gyntaf y batiad, ond Saeed Ajmal wnaeth y ddifrod wrth i Forgannwg golli’r saith wiced olaf am 87 o rediadau.

Prif sgoriwr Morgannwg oedd Jim Allenby gyda 35 ac fe sgoriodd Will Bragg 29.

Jacques Rudolph (11) a Ben Wright (10) oedd yr unig ddau fatiwr arall i sgorio 10 rhediad neu fwy.

Seren batiad cyntaf Swydd Gaerwrangon (352 i gyd allan) oedd Tom Fell (133), wedi’i gefnogi gan Tom Kohler-Cadmore (85), er i fowliwr cyflym Morgannwg Michael Hogan gipio pedair wiced am 73 a Ruaidhri Smith dair wiced am 98.

Gorffennodd Morgannwg (297 i gyd allan) eu batiad cyntaf 55 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Swydd Gaerwrangon, ac fe ddaeth y tîm cartref â’u hail fatiad i ben ar 299-7, wedi i droellwr llaw chwith Morgannwg, Dean Cosker gipio pum wiced am 97.

Ond roedd y nod o 355 yn ormod i Forgannwg, wrth i Swydd Gaerwrangon gipio’r wiced olaf yn ystod sesiwn y prynhawn i orffen pedwar diwrnod emosiynol i’r clwb yn dilyn marwolaeth eu hyfforddwr, Damian D’Oliveira ddechrau’r wythnos.