Mae Inter Milan yn awyddus i arwyddo chwaraewr canol-cae Caerdydd, Gary Medel.

Gwnaeth Medel argraff yn ystod ymgyrch Chile yng Nghwpan y Byd, wrth i’w wlad guro Sbaen a dod o fewn trwch blewyn o guro Brasil.

Pe bai Medel yn symud o Gaerdydd, mae disgwyl i’r clwb hawlio swm mawr o arian amdano.

Ymunodd Medel â Chaerdydd am £11 miliwn ddechrau’r tymor diwethaf ar ôl iddyn nhw gael eu dyrchafu i’r Uwch Gynghrair.

Mae adroddiadau’n awgrymu bod gan Valencia a Besiktas Istanbul ddiddordeb ynddo hefyd ond bod cynigion gan y ddau glwb wedi cael eu gwrthod hyd yma.